Bob Gould
Roedd Bob Gould (1863 - 29 Rhagfyr 1931) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Casnewydd . Enillodd 11 cap i Gymru a fu'n gapten ar gyfer un gêm. Mae Gould yn fwyaf adnabyddus ym myd rygbi fel brawd Arthur Gould, un o sêr fawr cyntaf rygbi Cymru.[3]
Bob Gould | |||
Enw llawn | Robert Gould | ||
---|---|---|---|
Man geni | Casnewyddt | ||
Lle marw | Nice, Ffrainc[1] | ||
Perthnasau nodedig | Arthur Gould (brawd) Bert Gould (brawd) | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Blaenwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
??? 1879-1887 ??? |
Cymry Llundain Casnewydd Richmond R.F.C. | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1882-1887 | Wales | 11[2] | 0[2] |
Cefndir
golyguGanwyd Gould yng Nghasnewydd yn un o leiaf 14 o blant Joseph Gould, peiriannydd nwy ac Elizabeth ei wraig. Bu pedwar o'i frodyr hefyd yn chwaraewyr rygbi i dîm Casnewydd a fu dau ohonynt yn chware i Gymru.[4]
Gyrfa
golyguDechreuodd Gould ei fywyd gwaith trwy ddilyn yn ôl traed ei dad a gweithio fel peiriannydd nwy. Ffurfiodd ef a rhai o'i frodyr cwmni peirianyddol cyffredinol a fu'n gweithio ar brosiectau megis codi pontydd a systemau dŵr ym mhob rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.[5]
Gyrfa rygbi
golyguChwaraeodd Gould y rhan fwyaf o'i rygbi clwb gyda Chasnewydd, gan dreulio 8 tymor gyda'r clwb rhwng 1879 a 1887. Bu'n gapten ar Gasnewydd yn ei dymor olaf.
Gyrfa ryngwladol
golyguCafodd Gould ei gapio gyntaf i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 28 Ionawr 1882. Chwaraeodd i Gymru 10 gwaith arall, gan fod yn gapten ar y tîm yn erbyn yr Alban ar 26 Chwefror 1887. Byddai Gould yn chwarae ei bum gêm ryngwladol olaf gyda'i frawd iau Arthur a nodir mai gêm yr Alban ym 1885 yw'r gêm rygbi ryngwladol gyntaf i gael brodyr ar y ddwy ochr. Y brodyr Gould i Gymru a George a Richard Maitland ar gyfer yr Alban.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [6]
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont ar Ogwr: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1953-6.
Cyfeiriadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Newport RFC player profile Archifwyd Mehefin 17, 2011, yn y Peiriant Wayback
- ↑ 2.0 2.1 "Newport Gwent Dragons: Past player profiles". www.newportgwentdragons.com. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-18. Cyrchwyd 2008-07-31.
- ↑ "South Wales Football Players, Mr R Gould - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-02-24. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "THE WELSH FIFTEEN - South Wales Echo". Jones & Son. 1895-03-16. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "WALES DAY BY DAY - The Western Mail". Abel Nadin. 1891-09-25. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ Smith (1980), pg 466.