Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban

Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban yw Gweinyddir rygbi'r undeb yn yr Alban gan Undeb Rygbi'r Alban.

Yr Alban v Iwerddon 2007

Chwaraewyd y gêm rygbi ryngwladol gyntaf erioed rhwng yr Alban a Lloegr yn Raeburn Place, Caeredin ym mis Mawrth 1871, gyda'r Alban yn fuddugol.

Enillodd yr Alban y Goron Driphlyg am y tro cyntaf yn 1907, gan gystadlu'n frwd a Cymru yn ystod y degawd yma. Enillwyd Y Gamp Lawn am y tro cyntaf yn 1925, y flwyddyn y chwaraewyd gemau yn Stadiwm Murrayfield am y tro cyntaf.

Enillodd yr Alban y Gamp Lawn am yr ail dro yn 1984 ac am y trydydd tro yn 1990, pan gurwyd Lloegr, oedd yn mynd am y Gamp Lawn eu hunain, yn y gêm olaf o Bencampwriaeth y Pum Gwlad yn Murrayfield. Yr Alban hefyd a enillodd Bencampwriaeth y Pum Gwlad am y tro olaf yn 1999, cyn i'r Eidal gael ei ychwanegu i greu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn y blynyddoedd diwethaf nid yw'r Alban wedi bod yn llwyddiannus iawn, a chollodd y rheolwr Matt Williams ei swydd yn 2005. Apwyntiwyd Frank Hadden i gymeryd ei le.

Mae eu canlyniadau yn erbyn timau rhyngwladol eraill fel a ganlyn, yn nhrefn y nifer o gemau (yn gywir hyd at Hydref, 2005):

Yn erbyn Gemau Ennill Colli Cyfartal
Lloegr122406517
Iwerddon11861515
Cymru11047603
Ffrainc7833423
Seland Newydd240222
Awstralia216150
De Affrica154110
Yr Eidal10730
Rwmania9720
Ariannin5140
Samoa4410
Ffiji4310
Tonga2200
Canada2110

Chwaraewyr enwog golygu

Dolenni allanol golygu