Bodas de sangre
Drama trasiedi gan y dramodydd Sbaeneg Federico García Lorca yw Bodas de sangre ("Priodas Waed"). Ysgrifennwyd ym 1932 a pherfformwyd yn 1933. Ffurfir 'triawd y werin' efo'i ddramâu eraill Yerma a La casa de Bernarda Alba ond nid oedd La Casa de Bernarda Alba yn ffurfio rhan o'i gynllun gwreiddiol.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Federico García Lorca |
Gwlad | Sbaen |
Iaith | Sbaeneg |
Cymeriadau | Bridegroom's Mother, Bridegroom, Bride, Death, Moon, Maid, Bride's Father, Leonardo's Wife, Leonardo's Mother-in-law, Woodcutter I, Woodcutter II, Woodcutter III, Young Man I, Young Man II, Girl I, Girl II, Girl III, Neighbour, Little Girl, Leonardo |
Prif bwnc | Nijar Crime |
Dyddiad y perff. 1af | 8 Mawrth 1933 [1] |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Braslun
golyguDim ond enwau fel mab, mam a priodferch sydd gan y cymeriadau. Agorir gyda'r mab a'r fam yn siarad. Mae gelyniaeth rhwng eu teulu a'r teulu Felix. Etyb y fam yn ffyrnig wrth weld cyllell yn ei law a chawn stori lladd ei frawd ac ei dad gan y Felixiaid.
Mae cymdoges yn datgelu bod darpar-wraig y mab yn gyn-gariad i Leonardo Felix, Mae'r fam yn penderfynu ymweld â'r briodferch. Mewn tŷ pellenig mae Leonardo, sy'n briod erbyn hyn ac yn dad i fab newydd, yn dychwelyd. Mae'r fam-yng-nghyfraith a gwraig Leonardo yn canu lwli trist i'r baban. Priodas anhapus sy gan Leonardo a phan ddaw merch fach i'r tŷ i adrodd hanes briodi ei gyn-gariad mae'n stormio o'r tŷ.
Mae'r fam yn cwrdd â theulu ei darpar-ferch-yng-nghyfraith ac er yn ddrwgdybus yn gadael yn hapus. Ond mae'r forwyn yn dod at y briodasferch i ddweud bod Leonardo wedi bod yn loitran o gwmpas y tŷ yn ddiweddar. Mae Leonardo yn dod y noson honno ac maen nhw'n cyffesu eu cariad at ei gilydd.
Wedi'r briodas mae parti mawr yn y tŷ a'r briodferch yn gadael i orwedd wedi'r diwrnod prysur. Ond ddaw yn amlwg bod hi wedi gadael â Leonardo. Mae'r mab a'r gwesteion i gyd yn mynd ar eu hôl nhw yn benderfynol o ladd Leonardo.
Wrth guddio yn y goedwig mae gwrach (neu gardotwraig) a'r lleuad yn ymddangos yn ysu am waed ffres. Goleuo'r pâr ifanc ac mae'r gŵr a Leonardo yn lladd ei gilydd.
Yn y pentref wedyn mae'r gwragedd yn ymgynnull ac yn sylwi wrth i'r brioferch cyrraedd yn ôl bod y priodfab a Leonardo wedi marw. Aneglur yw ffawd y weddw/priodferch wedyn; ai cael ei lladd neu ai byw yn hir fel gweddw llawn gofid.
Cymeriadau
golygu- La Madre - y fam
- La Novia - y briodferch
- La Suegra - mam-yng-nghyfraith Leonardo
- La Mujer De Leonardo - gwriag Leonardo
- La Criada - morwyn
- La Vecina - cymdoges
- Muchachas - merched
- Leonardo
- El Novio - y priodfab
- El Padre De La Novia - tad y briodferch
- La Luna - Y lleuad
- La Muerte (como mendiga) - Angau (fel wrach neu gardotwraig)
- Leñadores - Torrwyr-coed
- Mozos - bechgyn
Symboliaeth
golyguMae'r lleuad yn gymeriad cas, yn ysu am waed poeth rhag oerni'r nos. Defnyddir lliwiau a blodau fel symbolau gwyryfdod a diniweidrwydd. Ail-adroddir geiriau fel plata (arian), ramas (canghennau), paloma (colomen), ac yn aml iawn symbol y ceffyl a'i wynt yn ei ddwrn, Crynhoir y symboliaeth i gyd mewn lwli trist a genir i fab Leonardo mewn adlais o'r hyn sydd i ddod.
Themâu
golyguGwell i farw wrth geisio cariad na byw mewn anobaith ac yn gaeth i hualau'r gymdeithas. Felly marwolaeth a chariad, cydymffurfiaeth, chwant a rhyddid yr unigolyn yw ei themâu. A'r penderfyniad byrbwyll i ddianc - a symboleiddir gan y ceffyl, a'r tynged anochel sy'n deillio o dorri rheolau'r gymdeithas.
Addasiadau
golyguAddasiad Sbaeneg ym 1938, gyda Margarita Xirgu fel seren.
I'r Gymraeg:
- Priodas Waed, cyfieithiad gan R. Bryn Williams a John Rowlands. Copi ar lein: http://www.uwp.co.uk/book_desc/0638.pdf Archifwyd 2006-09-25 yn y Peiriant Wayback
Opera:
- Vérnász, gan y cyfansoddwr hwngaraidd Sandor Szokolay (Budapest, 1964)
- 'Die Bluthochzeit, (Almaeneg) gan Wolfgang Förtner
- Le Maryaj Lenglensou (Frangeg), gan y cyfarwyddwr Hans Fels, a sgôr Iphares Blain
Ffilm:
- Blood Wedding) gan Carlos Saura (1981_
Llyfryddiaeth
golygu- Christopher Maurer, "Introduction", yn Federico García Lorca: Three Plays, cyf. Michael Dewell a Carmen Zapata (Llundain: Penguin, 1992)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://hemerotecadigital.bne.es/issue.vm?id=0001115392&page=2. dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 1933. tudalen: 2.
- ↑ Maurer (1992, ix).
Dolenni allanol
golygu- The text of the original play can be found here: http://www.fut.es/~picl/libros/glorca/gl003900.htm (in Spanish)
- Llawllyfr lefel A: http://www.amazon.co.uk/Garcia-Lorca-Sangre-Critical-Spanish/dp/0729300838. yn saesneg gyda dyfyniadau sbaeneg.
- Sbaeneg: https://archive.today/20121128003901/rainerhurtadonavarro.blogspot.com/2009/03/el-sentido-tragico-en-la-casa-de.html El sentido trágico en La casa de Bernarda Alba, y algunas relaciones con Yerma y Bodas de Sangre, de Lorca.