Llyn mawr ar Afon Rhein rhwng yr Almaen, y Swistir ac Awstria yw'r Bodensee (Almaeneg: Bodensee; Ffrangeg: Lac de Constance). Mae ganddo arwynebedd o 536 km2. Mae'r llyn yn cynnwys tair ynys fawr, Ynys Mainau, Ynys Reichenau ac Ynys Lindau, ynghyd â nifer o ynysoedd llai. Fe'i lluniwyd yn ystod Oes yr Iâ gan rewlif y Rhein.

Bodensee
Matharea not part of a municipality of Switzerland, holomictic lake, eutrophic lake, hypertrophic lake, mesotrophic lake, dyfrffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlKonstanz, Bodman Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAfon Rhein Edit this on Wikidata
SirThurgau, St. Gallen, Schaffhausen, Vorarlberg, Konstanz, Bodenseekreis, Lindau Edit this on Wikidata
GwladY Swistir, yr Almaen, Awstria Edit this on Wikidata
Arwynebedd536 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr395.23 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.65°N 9.3167°E Edit this on Wikidata
Dalgylch11,500 cilometr sgwâr, 11,487 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd63 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Daw ei enw oddi wrth enw'r pentref Bodman ar ben gogledd-orllewinol y llyn. Ffurfiau cynharach ar ei enw yw Bodmansee a Bodansee. Mae llawer o ieithoedd Ewropeaidd yn defnyddio enwau ar y llyn (megis Ffrangeg Lac de Constance, Saesneg Lake Constance, Eidaleg Lago di Costanza, Portiwgaleg Lago de Constança, Sbaeneg Lago de Constanza) sy'n tarddu oddi wrth enw Konstanz, dinas fwyaf ar lan y llyn.

Map yn dangos lleoliad y Bodensee ar y ffin rhwng yr Almaen (yn y gogledd), y Swistir (yn y de) ac Awstria (yn y dwyrain)