Thurgau
Un o gantonau'r Swistir yw Thurgau (Almaeneg: Thurgau, Ffrangeg: Thurgovie). Saif yng ngogledd-ddwyrain y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2002 yn 232,742. Prifddinas y canton yw dinas Frauenfeld.
Yn y gogledd, mae'n ffinio ar lyn y Bodensee, a chaiff y canton ei enw o afon Thur, sy'n llifo trwyddo i ymuno ag afon Rhein . Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (88.5%), a'r nifer fwyaf yn brotestaniaid (50.6%).
Mae amaethyddiaeth yn bwysig yma, yn enwedig tyfu ffrwythau. Gwneir seidr o ran o'r cnwd afalau.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |