Pentref ychydig i'r gogledd o ddinas Ieper, Gwlad Belg, yw Boezinge a saif ar ffordd yr N369, i gyfeiriad Diksmuide.

Castell Boezinge

Oamgylch Boezinge yr ymladdwyd sawl brwydr rhwng y cynghreiriaid a'r Almaenwyr, gan gynnwys Brwydr Pilckem Ridge sef y frwydr gyntaf o nifer a ymladdwyd yn yr hyn a elwir yn 'Frwydr Passchendaele' sef Trydydd Brwydr Ypres. Ar y dydd cyntaf o Frwydr Pilckem Ridge y lladdwyd y bugail o Drawsfynydd, Hedd Wyn a gladdwyd tua milltir o'r pentref ym Mynwent Artillery Wood.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

 
Golygfa o'r pentref o Fynwent Artillery Wood

Gweler hefyd golygu

Cyfesurynnau: 50°53′45″N 2°51′21″E / 50.895887°N 2.855759°E / 50.895887; 2.855759