Cofeb y Cymry yn Fflandrys

Cofeb ryfel yw Cofeb y Cymry yn Fflandrys a leolir yn Langemark, ger Ieper, yn Fflandrys, Gwlad Belg. Mae'n coffáu'r Cymry a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe'i dardorchuddiwyd ar 16 Awst 2014 gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, er mwyn coffáu canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel yn 2017. Saif ar safle Brwydr Cefn Pilkem a ymladdwyd rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst 1917, yn y fan lle lladwyd Hedd Wyn; claddwyd ei gorff tua milltir a hanner i lawr y briffordd ym Mynwent Artillery Wood.

Welsh Memorial Park Ypres 001.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcofeb ryfel Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cofeb y Cymry yn Fflandrys

Y cerflunydd Lee Odishaw a gynlluniodd y gofeb, sydd ar ffurf draig goch yn sefyll ar ben cromlech. Daw'r meini o chwarel Craig yr Hesg ym Mhontypridd.

Oriel luniauGolygu

Y Parc CoffaGolygu

Man coffa Hedd WynGolygu

Gweler hefydGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: