Botwm bol
(Ailgyfeiriad o Bogail)
Yn iaith y feddygaeth y bogail yw'r enw cywir am y botwm bol, sef craith a leolir ar yr abdomen ychydig uwch na'r cnwc Gwener. Achoswyd y graith pan dorrwyd llinyn y bogail ar enedigaeth y babi. Mae gan bob mamal brychol fotwm bol, er nad yw mor amlwg yn y rhan fwyaf o anifeiliaid ag ydyw mewn dyn. Yn yr erthygl hon byddwn yn edrych arno fel craith allanol. Ceir mwy o drafodaeth ar fioleg llinyn y bogel mewn erthygl arall.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | craith, subdivision of abdomen, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | Abdomen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r graith, mewn bodau dynol, yn bant eithaf dwfn, ond ar adegau mae'r graith yn ymwthio allan. Yn wir, mae ffurf a maint a siâp botymau bol yn amrywio'n fawr. Gan nad oes ganddyn nhw ddim byd i'w wneud â geneteg, fe ddefnyddir eu siâp a'u maint er mwyn adnabod gefeilliaid newydd anedig.