Abdomen
Mewn fertibrat megis mamal, yr abdomen (bol) yw'r rhan isaf o'r corff rhwng y thoracs a'r pelfis. Gelwir y rhan a gaiff ei chwmpasu gan yr abdomen yn geudod abdomenol. Mewn arthropodau, dyma ran fwyaf distal y corff, sy'n eistedd tu ôl i'r thoracs, neu'r cephalothoracs.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol, israniad organeb |
---|---|
Math | tagma, subdivision of trunk proper, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | abdominal segment of trunk |
Yn cynnwys | Botwm bol, ceudod yr abdomen, hypogastrium, flank, hypochondrium, epigastrium, right inguinal part of abdomen, left inguinal part of abdomen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler Abdomen (dynol) ar gyfer yr abdomen mewn anatomi ddynol.
Fertebratau
golyguMewn fertebratau, ceudod yw'r abdomen, sy'n amgaeëdig gan y cyhyrau abdomenol, yn fentrol ac yn ochrol, a chan yr asgwrn cefn yn ddorsol. Gall yr asennau isaf hefyd amgau muriau fentrol ac ochrol yr abdomen. Mae'r ceudod abdomenol yn ddi-dor ynghyd â cheudod y pelfis. Gwahanir oddi wrth y ceudod thorasig gan y diaffram. Mae strwythurau megis yr aorta, y fena cafa lleiaf a'r oesoffagws yn pasio drwy'r diaffram. Mae gan geudodau'r pelfis a'r abdomen leinin o bilen serws, a adnabyddir fel peritonewm bradwyol. Mae'r bilen yma'n ddi-dor gyda leinin peritonewm perfeddol yr organau.[3] Mewn fertebratau, mae'r abdomen yn cynnwys sawl organ sy'n perthyn, er enghraifft, i'r system dreulio a'r system troeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Abdomen. (n.d.). Dictionary.com.
- ↑ Abdomen - The American Heritage Dictionary of the English Language, 4th Edition. Dictionary.com.
- ↑ Peritoneum - The Veterinary Dictionary. Elsevier (2007).