Gwrthodiad i ymwneud â chwmni, unigolyn, gwlad, neu rywbeth arall, gan amlaf fel protest, cosb neu ymgyrch, yw boicot. Daw'r enw o'r Capten Charles Cunningham Boycott (1832–97), asiant o Sais a oedd yn cynrychioli'r landlord absennol yr Arglwydd Erne yn Swydd Mayo, Iwerddon. Fe gafodd ei dargedu gan y Gynghrair Dir a'i anwybyddu gan y gymuned leol. Ymddangosodd y ferf Saesneg boycott ym 1880, a cheir enghraifft o'r gair yn Gymraeg o 1887 ym Maner ac Amserau Cymru.[1]

Gwawdlun o'r Capten Boycott gan Leslie Ward. Cyhoeddwyd yn y cylchgrawn Vanity Fair ym 1881.

Yng nghysylltiadau rhyngwladol, gelwir boicotiau swyddogol gan un wladwriaeth, neu garfan ohonynt, yn erbyn gwladwriaeth arall yn sancsiynau.

Cyfeiriadau golygu

  1.  boicotiaf. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Mai 2018.