Bonaire
Ynys ym Môr y Caribî sy'n perthyn i Deyrnas yr Iseldiroedd yw Bonaire. Mae'n un o'r Ynysoedd ABC, sydd hefyd yn cynnwyd Arwba a Curaçao. Saif ychydig i'r gogledd o arfordir Feneswela, ac roedd y boblogaeth yn 13,389 yn 2010. Y brifddinas yw Kralendijk. Iseldireg yw'r iaith swyddogol, ond cydnabyddir Papiamento hefyd. Ger ei harfordir gorllewinol, mae ynys fechan Klein Bonaire.
Math | ynys, Caribbean Public Entity, endid tiriogaethol gwleidyddol, tiriogaeth dramor gyfannol, allglofan |
---|---|
Prifddinas | Kralendijk |
Poblogaeth | 24,090 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Tera di Solo y suave biento |
Pennaeth llywodraeth | Willem-Alexander, brenin yr Iseldiroedd |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser yr Iwerydd, UTC−04:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Papiamento |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd ABC, Antilles Leiaf, Leeward Antilles, Antilles yr Iseldiroedd, Caribbean Netherlands, Y Caribî |
Sir | Yr Iseldiroedd, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 288 km² |
Uwch y môr | 241 metr |
Cyfesurynnau | 12.1796°N 68.2581°W |
NL-BQ1 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Island Council of Bonaire |
Pennaeth y wladwriaeth | Lydia Emerencia, Willem-Alexander, brenin yr Iseldiroedd |
Pennaeth y Llywodraeth | Willem-Alexander, brenin yr Iseldiroedd |
Arian | doler yr Unol Daleithiau, Netherlands Antillean guilder, Dutch guilder |
Y boblogaeth frodorol oedd y Caiquetio, a gyrhaeddodd o Feneswela tua 1000. Yn 1499 glaniodd Alonso de Ojeda ac Amerigo Vespucci, a feddiannodd yr ynys i Sbaen. Cipiwyd yr ynys gan yr Iseldirwyr yn 1633. Yn yr 20g, adeiladwyd maes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Flamingo.