Borscht
Cawl sur yw borscht sydd yn boblogaidd mewn sawl gwlad yn Nwyrain Ewrop, gan gynnwys Yr Wcráin. Mae'r riset mwyaf cyffredin yn o darddiad Wcrain ac yn cynnwys betys cochion fel un o'r prif gynhwysion, sydd yn gwneud y ddysgl yn goch. Defnyddir yr un gair, fodd bynnag, ar amryw o gawliau sur heb fetys.
Delwedd:Borscht with bread.jpg, Borscht, Rostov-on-Don, Russia.jpg | |
Math | beetroot soup, Q12105883 |
---|---|
Deunydd | Bresychen wyllt, potato, beet, moronen, nionyn, Bresychen |
Rhan o | Ukrainian cuisine, Russian cuisine, Lithuanian cuisine, Coginiaeth Belarws, coginio Gwlad Pwyl, Jewish cuisine, Romanian cuisine, Moldovan cuisine |
Yn cynnwys | beet, Bresychen, potato, nionyn, moronen, beet kvass, Betysen, taten, Nionyn, white cabbage |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n cael ei goginio fel arfer drwy gyfuno stoc cig neu esgyrn gyda llysiau wedi'u ffrio'n ysgafn, sydd yn ogystal â betys, fel arfer, yn cynnwys bresych, moron, winwns, tatws a thomatos. Yn dibynnu ar y rysáit, gall gynnwys cig neu bysgod, neu'n llysieuol yn unig; gall fod yn boeth neu oer, a gall amrywio o bryd swmpus i gawl glir.