Tatws
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Solanales
Teulu: Solanaceae
Genws: Solanum
Rhywogaeth: S. tuberosum
Enw deuenwol
Solanum tuberosum
L.

Cloronen startshlyd â chroen brown neu goch sy'n ehangiad o goesyn tanddaearol o'r planhigyn trin Solanum tuberosum ac a goginnir a bwytir fel llysieuyn yw taten (ll. tatws). Mae taten yn dod o Dde America yn wreiddiol, ond bwytir nhw ledled Ewrop, De America a Gogledd America heddiw.

Dywediadau a llên gwerin golygu

Mae'n arferiad yng Nghymru i alw plant neu bobl annwyl eraill yn Flodyn Tatws.

Ffenoleg golygu

Dengys dadansoddiad o gofnodion Llèn Natur ym Mwletin 151 (graff tud. 6)[1] mai ym mis Ebril fu anterth plannu (cyfystyron 'seti', 'gosod') tatws yng Nghymru, priddo ym mis Mehefin, a chodi tatws ym mis Hydref.
Dyma ddau gofnod enghrefftiol o'r amrywiadau ar y gair 'plannu': John Owen Hughes, Bwlchtocyn, Llŷn, yn gosod tatws ar 14 Ebrill 1931 ac ar 23 Mai 1851 roedd Edward Evans, Parsele, Gogledd Penfro yn Penud seti tato (h.y. gorffen plannu tatws).

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am taten
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lysieuyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.