Bovium
Safle gweithfa neu depot lleng Rufeinig caer Deva (Caer), ar safle pentref Holt, ger Wrecsam, oedd Bovium (enw Lladin), lle cynhyrchid crochenwaith a theiliau at ddefnydd miwrol a sifil. Gorwedd y safle ar lan orllewinol afon Dyfrdwy.
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Roedd yn arfer gan y llengoedd Rhufeinig sefydlu depots o'r fath ger y prif gaerau er mwyn cael cyflenwad o ddeunyddiau - crochenwaith a deunydd adeiladu fel arfer - i'r gaer a'i garsiwn. Cyfeirir at Bovium yn yr Itinerarium Augustunium am Brydain (adran II) fel depot yn gorwedd deg milltir Rufeinig i'r de o Deva. Gwyddom enw un o'r unedau a weithiai yno, sef y Cohors I Sunicorum.
Cafwyd olion gweithdai, siedau sychu ac odynau ar gyfer cynhyrchu teiliau a chrochenwaith ar y safle yn Holt pan gloddiodd T. A. Acton yno ddiwedd y 1900au a dechrau'r 1910au. Roedd Bovium yn cynhyrchu'r deunydd yma rhwng tua 90 a 125 OC. Mae rhai o'r teiliau to wedi eu stampio a'r arwydd LEG XX VV (Legio XX Valeria Victrix), arwydd y lleng Rufeinig honno oedd a'i phencadlys yng Nghaer.
Credir fod olion tri adeilad mawr hirsgwar yn cynrychioli'r baracs. Mae un o'r rhain yn fwy sylweddol na'r ddau arall ac yn cynnwys stafell ar wahân yn ei ben, efallai ar gyfer pennaeth y gweithle (swyddog - canwriad efallai - yn y lleng). Ymddengys fod lle i tua 80 o wŷr yn yr adeilad. Damcaniaethir mai taeogion oedd yn byw yn ddau adeilad arall, ond credir rhai mai ystabl oedd un ohonynt. Hefyd ar y safle ceir olion dau faddondy Rhufeinig.
Byddai'n hawdd cludo'r cynnyrch gorffenedig i lawr afon Dyfrdwy i Gaer. Mae cynnyrch Bovium wedi ei darganfod ar sawl safle Rhufeinig yng ngogledd Cymru, milwrol a dinesig.
Cyfeiriadau
golygu- Kevin Blockley, 'The Romano-British period', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991)