Caer
Dinas yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, a chanolfan weinyddol (tref sirol) y sir yw Caer (Saesneg: Chester).[1] Mae hi ar lan ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn agos iawn i ffin Cymru. Mae'r ddinas yn cael ei alw'n Caerlleon neu Caerlleon Gawr, mewn rhai testunau Cymraeg.
Math | dinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Gaer a Chaer |
Poblogaeth | 87,507 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Lörrach, Senigallia, Lakewood |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 23.6 km² |
Yn ffinio gyda | Eaton and Eccleston, Great Boughton, Huntington, Dodleston, Guilden Sutton, Mickle Trafford and District, Mollington, Swydd Gaer |
Cyfesurynnau | 53.2°N 2.88°W |
Cod OS | SJ405665 |
Cod post | CH1-4 |
- Mae'r erthygl yma am y ddinas yn Lloegr. Am ystyron eraill, gweler Caer (gwahaniaethu)
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caer boblogaeth o 86,011.[2]
Mae muriau'r ddinas ymysg y gorau ym Mhrydain a cheir nifer o dai hynafol o ddiwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid yng nghanol y ddinas. Ers blynyddoedd mae Caer yn enwog am ei chae rasys ceffylau, ar gyrion y dref.
Hanes
golyguMae'r ddinas wedi tyfu o gwmpas safle'r hen gaer Rufeinig Deva. Roedd hi'n ganolfan bwysig i lengfilwyr Rhufain, a dangosir hyn yn yr hen enw ar y dre - 'Caerllïon Fawr ar Ddyfrdwy' - a oedd yn gartref am gyfnod hir i'r lleng Legio XX Valeria Victrix. Mae rhai yn credu, oni bai am ddirywiad a chwymp yr ymerodraeth Rufeinig, y gallai Caer fynd yn brifddinas y Brydain Rufeinig ac yn ganolfan i'r Rhufeiniaid fentro dros y môr i Iwerddon.
Ar ôl ymadawiad byddinoedd Rhufain, mae'n debyg i Gaer ddod yn rhan o deyrnas Powys, ond roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn dod yn nes. Ymladdwyd Brwydr Caer tua'r flwyddyn 615 rhwng lluoedd y Brythoniaid a lluoedd Æthelfrith, brenin Deira (wedyn Northumbria). Aeth y fuddugoliaeth i'r Saeson, ac o hynny ymlaen hwy oedd yn oruchaf yn yr ardal.
Cipiwyd Caer gan y Normaniaid yn yr 11g a chreuwyd Iarllaeth Caer ganddynt, un o'r bwysicaf o arglwyddiaethau Normanaidd y Mers. Treuliodd Gruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, gyfnod o rai blynyddoedd mewn carchar yn y castell Normanaidd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaer ar ddiwedd ei daith trwy Gymru yn 1188.
Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol bu Caer yn ganolfan filwrol i'r Saeson yn eu hymosodiadau ar Gymru. Roedd gan y dref hanes hir o wrthgymreictod.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Grosvenor
- Castell
- Eglwys gadeiriol
- Neuadd y dref
- Tafarn y Falcon
Enwogion
golygu- Syr Adrian Boult (1889–1983), cerddor
- Randolph Caldecott (1846–86), arlunydd
- Leonard Cheshire (1917–1992), arwr rhyfel
- Hugh Lloyd (1923-2008), actor
- Russ Abbot (g. 1947), comediwr
- Steven Cousins (g. 1972), sglefriwr
- Helen Willetts (g. 1972), cyflwynydd y tywydd
Galeri
golygu-
Afon Dyfrdwy yng Nghaer
-
Y Castell
-
Stryd Northgate
-
Y Gamlas
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 7 Medi 2020
- ↑ City Population; adalwyd 7 Medi 2020
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan y ddinas
Dinas
Caer
Trefi
Alsager ·
Birchwood ·
Bollington ·
Congleton ·
Crewe ·
Ellesmere Port ·
Frodsham ·
Knutsford ·
Macclesfield ·
Middlewich ·
Nantwich ·
Neston ·
Northwich ·
Poynton ·
Runcorn ·
Sandbach ·
Warrington ·
Widnes ·
Wilmslow ·
Winsford