Bras y cyrs
Bras y Cyrs | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Emberizidae |
Genws: | Emberiza |
Rhywogaeth: | E. schoeniclus |
Enw deuenwol | |
Emberiza schoeniclus (Linnaeus, 1758) |
Mae Bras y Cyrs (Emberiza schoeniclus ) yn aelod o deulu'r Emberizidae, y breision. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia.
Nid yw'r Bras Melyn yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n arbennig o oer yn symud tua'r de. Mae yn aml yn nythu mewn corsydd neu o gwmpas glannau afonydd neu lynnoedd, ond gall nythu mewn mannau sych hefyd. Dodwir 4-7 wy mewn llwyn neu dyfiant arall.
Gellir adnabod Bras y Cyrs yn weddol hawdd, yn enwedig y ceiliog sydd a pen a gwddf du, coler wen a bol gwyn a chefn brown. Mae yr iâr yn fwy brown ar y pen gyda marciau du. Ei brif fwyd yw hadau, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Mae Bras y Cyrs yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, er fod ei niferoedd wedi gostwng rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf.