Enghreifftiau
Mae'r goddrych mewn llythrennau bras yn y brawddegau isod.
  1. Mae'r geiriadur yn fy helpu dod o hyd i eiriau.
  2. Gwelodd Ifan fod y bws wedi mynd.
  3. Dywedodd y dyn sy'n eistedd yn y gadair wrtha i ei fod e newydd brynu tocyn i Tahiti.
  4. Dyw dim byd arall yn ddigon da.
  5. Mae bwyta chwe math o wahanol lysiau'r dydd yn iachus.
  6. Fe a werthodd ddeg uned o dywod inni.

Goddrych yw'r peth neu berson sy'n cyflawni'r weithred mewn brawddeg ac a fynegir gan y ferf. Gelwir y weithred gan oddrych mewn brawddeg yn draethiad. Yr enw am air penodol sy'n derbyn gweithred y goddrych yw 'gwrthrych'. Does dim rhaid i'r goddrych ei hun fod yn bresennol mewn brawddeg; gall fod yn ddealledig ac yn achos y Gymraeg a sawl iaith arall gall ffurf y ferf ei ddynodi, e.e. 'gwelaf'.

Gweler hefyd

golygu