Brenhiniaeth gyfansoddiadol
Ffurf ar lywodraeth lle cyfyngir grym a swyddogaeth brenhiniaeth gan gyfansoddiad gwleidyddol yw brenhiniaeth gyfansoddiadol. Fel rheol mae cyfundrefn o'r fath yn golygu fod y brenin neu frenhines yn aros yn ben swyddogol neu seremonïol y wladwriaeth ond bod y gwir rym yn nwylo'r llywodraeth etholedig.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | math o senedd ![]() |
Math | brenhiniaeth ![]() |
![]() |
Mae gwladwriaethau cyfoes a gyfrifir yn frenhiniaethau cyfansoddiadol yn cynnwys y Deyrnas Unedig (er nad oes ganddi gyfansoddiad ffurfiol fel y cyfryw), Yr Iseldiroedd a Moroco.