Brenhinllin y Ptolemïaid

Brenhinllin o darddiad Macedonaidd a ddaeth yn rheolwyr yr Aifft am bron 300 mlynedd oedd Brenhinllin y Ptolemïaid.

Sefydlwyd y llinach gan Ptolemi mab Lagus, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, daeth Ptolemi yn satrap yr Aifft. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn un arall o gadfridogion Alecsander, Perdiccas, pan ymosododd ef ar yr Aifft, ac yn 305/4 CC cyhoeddodd ei hun yn frenin. Yn 285 CC, gwnaeth ei fab, Ptolemi II Philadelphus, yn gyd-frenin.