Brenhinoedd Sawdi Arabia

(Ailgyfeiriad o Brenin Sawdi Arabia)

Brenin Sawdi Arabia yw pennaeth (ac unben) gwladwriaeth Sawdi Arabia; ef felly yw pennaeth ei Lywodraeth. Ef hefyd yw penteulu'r Sawdiaid a gelwir ef yn 'Geidwad y Ddau Fosg Sanctaidd'yn hytrach na'r dull arferol o gyfarch brnin, sef 'Eich Mawrhydi', ers 1989. Mae'r teitl hwn yn cyfeirio at (خادم الحرمين الشريفين) sef dau fosg pwysicaf y wlad: Masjid al Haram ym Mecca a Masjid al-Nabawi yn Medina.

Hanes golygu

Unwyd y wlad gan Ibn Saud yn 1932; cyn hynny roedd yn bedair ardal annibynnol i'w gilydd: Hejaz, Najd a rhannau o Ddwyrain Arabia (Al-Hasa) a De Arabia (ardal 'Asir).[1] Llwyddodd i wneud hyn dry gyfres o ymosodiadau milwrol gan gychwyn yn 1902 pan gymerodd Riyadh, hen ddinas ei hynafiaid sef y teulu 'Saud'.

Llinach ers 1932 golygu

Enw
Einioes
Dechrau teyrnasu
Gorffen teyrnasu
Nodiadau
Teulu
Llun
Ibn Saud
(Abdulaziz)
  • عبد العزيز
26 Tachwedd 1876 - 9 Tachwedd 1953
76 oed
22 Medi 1932 9 Tachwedd 1953 Gelwir ef yn 'Dad Saudi Arabia' Saud
Saud
  • سعود
12 Ionawr 1902 - 23 Chwefror 1969
67 oed
9 Tachwedd 1953 2 Tachwedd 1964
(diorseddwyd)
Mab Ibn Saud a Wadhah bint Muhammad bin 'Aqab Saud  
Faisal
  • فيصل
April 1906 – 25 Mawrth 1975
68 oed
2 Tachwedd 1964 25 Mawrth 1975
(lladdwyd)
Mab Ibn Saud a Tarfa bint Abduallah bin Abdulateef al Sheekh Saud  
Khalid
  • خالد
13 Chwefror 1913 - 13 Mehefin 1982
69
25 Mawrth 1975 13 Mehefin 1982 Mab Ibn Saud ac Al Jawhara bint Musaed bin Jiluwi Saud  
Fahd
  • فهد
16 Mawrth 1921 - 1 Awst 2005
84 oed
13 Mehefin 1982 1 Awst 2005 Mab Ibn Saud a Hassa bint Ahmed Al Sudairi Saud  
Abdullah
  • عبد الله
1 Awst 1924 - 23 Ionawr 2015
90 oed
1 Awst 2005 23 Ionawr 2015 Mab Ibn Saud a Fahda bint Asi Al Shuraim Saud  
Salman
  • سلمان
31 Rhagfyr 1935
23 Ionawr 2015 Deiliad Mab Ibn Saud a Hassa bint Ahmed Al Sudairi Saud  

Cyfeiriadau golygu

  1. Madawi Al-Rasheed (2013). A Most Masculine State: Gender, Politics and Religion in Saudi Arabia. t. 65.