Brian Wilson (gwleidydd)
Gwleidydd o'r Alban yw Brian Wilson (ganwyd 13 Rhagfyr 1948). Bu'n Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur rhwng 1987 a 2005, a gwasanaethodd fel Gweinidog Gwladol rhwng 1997 a 2003 (Swyddfa Albanaidd 1997–1998, Adran Masnach a Diwydiant 1998–1999, Swyddfa Albanaidd 1999–2001, Swyddfa Tramor 2001 a Gweinidog Egni, Adran Masnach a Diwydiant 2001–2003). Pan sefodd i lawr fel gweinidog cyn gadael y Senedd, gofynnodd Tony Blair iddo weithredu fel Cynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog ar Fasnach Tramor.
Brian Wilson | |
---|---|
Ganwyd | Brian David Henderson Wilson 13 Rhagfyr 1948 Dunoon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Minister of State for Foreign Affairs, Gweinidog dros Fasnach, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Minister for Gaelic, Parliamentary Under-Secretary of State for Africa, Latin America and the Caribbean |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | CBE |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Brian Wilson.
Bywyd cynnar
golyguAddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dunoon, Prifysgol Dundee a Choleg Prifysgol Caerdydd. Wilson oedd y golygydd a sefydlodd a gyhoeddodd y West Highland Free Press, ynghyd â thri ffrind o Brifysgol Dundee yn 1971. Roedd y papur newydd wedi ei seilio yn Kyleakin, Ynys Skye yn wreiddiol, ac mae'n dal i gael ei gyhoeddi o Broadford, Ynys Skye.
Swyddi
golygu- Cyfrin Gynghorydd (2003)
- Cyfarwyddwr anweithredol AMEC Nuclear Holdings Cyf (Hydref 2005)[1]
- Cyfarwyddwr anweithredol[2] ar Bwyllgor Taliadau[3] AFC Energy
- Cyfarwyddwr anweithredol Celtic plc
- Cadeirydd Bwrdd Gweithrediadau y DU, Airtricity
- Cadeirydd Flying Matters (June 2007)[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ AMEC - Press releases
- ↑ "AFC Energy » Directors". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-07. Cyrchwyd 2008-11-12.
- ↑ "AFC Energy » Director's Responsibilities and Committees". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-07. Cyrchwyd 2008-11-12.
- ↑ "Flying Matters | About". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-23. Cyrchwyd 2008-11-12.
Dolenni allanol
golygu- Guardian Politics Ask Aristotle – Brian Wilson
- TheyWorkForYou.com – Brian Wilson MP
- Labour Party
- The United Kingdom Parliament
- Scotland Office Archifwyd 2007-07-03 yn y Peiriant Wayback
- Foreign & Commonwealth Office
- Department of Trade & Industry Archifwyd 2007-06-03 yn y UK Government Web Archive
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Corrie |
Aelod Seneddol drost Gogledd Cunninghame 1987–2005 |
Olynydd: diddymwyd yr etholaeth |