Brìghde
- Mae'r erthygl yma yn delio a'r dduwies Geltaidd Brìghde ym mytholeg Gwyddelig. Am y santes Wyddelig o'r un enw, gweler Ffraid.
Duwies Iwerddon cyn-Gristnogol oedd Brìghde (hefyd Brigit, Brigid, neu Bríg a Ffraid yn y Gymraeg), sy'n golygu "un aruchel". Ym mytholeg Iwerddon, aelod y Tuatha Dé Danann (llwyth y dduwies Dana), merch y Dagda, a gwraig i Bres yr oedd. Cafodd Brìghde a Bres fab gyda'i gilydd o'r enw Ruadán.
Awgrymid i Brìghde fod yn dduwies y wawr Indo-Ewropeaidd. Cysylltir hi â'r gwanwyn, ffrwythlondeb, iacháu, barddoniaeth, a gofaniaeth. Roedd ganddi ddwy chwaer, a hefyd yn dwyn yr enw Brìghde, felly ystyrir hi'n un o'r Duwiesau Triphlyg Celtaidd.
Ceir hanes amdani yn Lebor Gabála Érenn, lle dywedir fod ganddi ddau ych, Fe a Men, sy'n pori ar wastadedd a alwyd yn Femen ar eu holau; y Torc Triath (Twrch Trwyth), brenin y baeddod, a Cirb, brenin y defaid. Cysylltir hi a fflamau sanctaidd ac a ffynhonnau, ac roedd yn dduwies uchelfannau, megis bryngaerau. Ymddengys i rywfaint o'i phriodoleddau gael eu troi yn hanesion am y Santes Ffraid (Brigit mewn Gwyddeleg). Roedd y dduwies Brigantia yn cyfateb iddi ar Ynys Prydain, ac mae'n ymddangos fod Brigantia yn cael ei huniaethu ag Athena a Minerva.