Baedd Gwyllt a ffyrnig y ceir hanes ei hela yn y chwedl Culhwch ac Olwen yw'r Twrch Trwyth.

Hela'r Twrch Trwyth (engrafiad yn argraffiad 1877 o gyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogion)

Ceir cyfeiriadau cynharach ato yn y gerdd 'Gorchan Cynfelyn' yn Llyfr Aneirin ac yn y rhestr o Ryfeddodau Prydain ar ddiwedd Historia Brittonum Nennius.

Yn Culhwch ac Olwen un o'r anoethau a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr yw cael y grib a'r gwellau sydd rhwng dau glust y Twrch Trwyth. Mae Arthur a'i wŷr yn hela'r Twrch ar ran Culhwch gan ei dilyn trwy goedwigoedd ac anialdiroedd yn ne Cymru, gan gynnwys Buallt, am naw niwrnod a naw nos. Yn ôl y chwedl, brenin a drowyd yn faedd fel dial arno gan Duw yw'r Twrch. Mae ganddo naw o foch bychain sydd bron iawn mor ffyrnig ag ef ei hun. Cais Arthur gael trafodaeth ag ef oherwydd ni thycia'r hela o gwbl, er iddo ladd un o'r moch bychain. Ond gwrthod mae'r Twrch a dianc dros y môr i Iwerddon. Dychwela i Gymru a glanio ym Mhorth Clais yn Nyfed ac mae'r hela'n cychwyn o'r newydd. Y tro yma mae Arthur a'i wŷr yn ei hela trwy afon Hafren i Gernyw. Lleddir y chwe moch arall ond mae'r Twrch Trwyth ei hun yn dianc i'r môr ar ôl i Arthur lwyddo i gael y grib a'r gwellau o'r diwedd, ar ôl ymladd ffyrnig.

Ceir cyfeiriad at hela Ysgithrwyn Pen Beidd yn yr un chwedl a cheir traddodiad cyffelyb yn Iwerddon hefyd.

Cyfeiriadau

golygu
  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)
  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 1998)

Gweler hefyd

golygu