Santes oedd Ffraid neu Brîd (Gwyddeleg: Naomh Bhríde neu Brigit, Saesneg: Bridget) (fl. 451 – 525) yn arweinydd cymuned Cristnogol yn Iwerddon. Ystyrir hi yn un o nawdd-saint Iwerddon gyda Padrig a Colum Cille. Mae nifer o eglwysi yng Nghymru hefyd wedi eu cysegru iddi.
Y buchedd cynharaf yw Vita Brigitae gan Cogitosus, gwaith y credir ei fod yn dyddio i tua 650. Yn ôl traddodiad ganed Ffraid yn Faughart ger Dundalk, Swydd Louth. Roedd ei thad, Dubhthach, yn bagan, tra'r oedd ei mam, Brocca, yn gaethferch Bictaidd oedd wedi ei bedyddio gan Sant Padrig. Mae hanes amdani, pan yn blentyn, yn gwerthu cleddyf gwerthfawr ei thad gan ddefnyddio yr arian a'i cafodd i fwydo tlodion a mabwysiadwyd hi fel nawdd-santes y Mudiad Heddwch yn Iwerddon yn ail haner y 20g. Gelwir Brîd weithiau yn 'Mair y Gaeliaid' yn Iwerddon. Mae traddodiad amdani yn dweud eu fod hi yn arfer gwneud croes allan o wellt er mwyn esbonio am groeshoeliad Iesu i'r werin. Yn Iwerddon mae hi'n nawdd-santes y tân a'r aelwyd.
Mynnodd Ffraid dilyn ffydd ei mam, a chredir iddi sefydlu ei chymuned gyntaf yn Clara, Swydd Offaly. Tua 470 sefydlodd cymuned Cristnogol, i ddynion a menywod, yn Kildare. Daeth Abaty Kildare yn enwog trwy Ewrop. Bu farw yno tua 525 a'i chladdu ger yr allor, ond yn ddiweddarch symudwyd ei gweddillion.
Mae chwedl poblogaidd yn dweud fod hi oedd y byd-wraig a cynorthwyodd Mair wrth iddi esgor a'r Iesu. Ni all y Brîd hon fod Brîd o Cildara ond efallai y mae yn tystiolaeth i gymorth arhoddwyd gan santesau i famau oedd yn esgor.
Sylwodd Emrys George Bowen at y ffaith fod Ffraid yw'r unig un o'r saint Celtaidd gyda llefydd wedi cysegru iddi ar draws Cymru, yn lle cyfuno'r cysegriadau i gyd mewn un ardal. Awgrymodd dau reswm am hwn. Efallai daeth nifer o disgyblion Brîd i Gymru a daeth cysegriad i Brîd yn cyfysyr i gysegriad i un o'r santesau Gwyddelig. Efallai fod mwy nag un santes o'r un enw.[1] Mae Brîd yn mwy cyffredin yn y dde a Ffraid yn y gogledd. Ar benrhyn Llŷn ac yn ardal Llansanffraid Glan Conwy mae traddodiad leol yn cyfeirio at Ffraid fel nawdd-santes pysgotwyr; teyrned i santes leol efallai. Meddai Henken fod hanesion a htraddodiadau cysylltiedig a Brîd o Cildara, a rhai am Brigitta o Sweden wedi cymysgu i'r fath raddau gyda santes, neu santesau brodorol fel nid oes modd eu gwahanu.[2]
Oherwydd ei bod yn rhannu'i henw a'i gŵyl gyda'r dduwies Baganaidd Brigid, mae rhai pobl o'r farn fod y Santes Ffraid yn greadigaeth a seilir yn rhannol neu yn gyfan gwbl ar y ffigur Paganaidd, er mwyn trosi'r Celtiaid i Gristnogaeth; roedd y dröedigaeth grefyddol o ffigurau a thraddodiadau Paganaidd yn arfer cyffredin. Sut bynnag, y mae'n bosibl y cafodd yr ŵyl ei henwi ar ei hôl hi. Cafodd cenhadon Cristionogol wrthwynebiad wrth bregethu'r Efengyl yn Iwerddon.
Mewn Neo-baganiaeth, caiff Ffraid ei dathlu ar adeg pan yw'r haul yn tyfu a gorfod cael ei annog trwy fisoedd o aeaf oer. Gŵyl y Canhwyllau (Imbolc) yw'r ŵyl Baganaidd ar gyfer y dathliad hwn, a dathlir ef gan danio canhwyllau i symboleiddio'r broses bwysig hon. Cafodd ei gŵyl ei hychwanegu i'r calendr i gyd-ddigwydd gyda Gŵyl Fair y Canhwyllau, dydd pan mae Catholigion yn dathlu gŵyl puredigaeth y Forwyn Fair, a ddathlir gyda seremoni mewn golau cannwyll.