Brinley Rees (1916 - 2001)
ysgolhaig
Ysgolhaig Cymreig oedd Brinley Rees (17 Mai 1916 - 2001)
Brinley Rees | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1916 Gorseinon |
Bu farw | 2001 |
Galwedigaeth | ysgolhaig |
Ganed ef ym Mhenrhewl, Gorseinon, yn frawd i Alwyn D. Rees. Addysgwyd ef yng Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg yn 1937 ac yn y dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1938. Aeth ymlaen i gymeryd gradd MA cyn treulio cyfnod fel athro ysgol ym Mhontardawe o 1942 hyd 1946. Yn y cyfnod yma, enillodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru i dreulio amser yn astudio yn Iwerddon.
Ymunodd â staff Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 1947 a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1982.
Cyhoeddiadau
golygu- Dulliau'r Canu Rhydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1952)
- Ceinciau'r Mabinogi (Bangor, 1975; 2il arg. Gwasg Gomer, 1999)
- (gyda'i frawd Alwyn D, Rees) Celtic Heritage: Ancient Tradition in Ireland and Wales (Llundain, 1961)