Pontardawe

tref a chymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot

Lleolir tref Pontardawe yng Nghwm Tawe, ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot. Llifa'r Afon Tawe trwy ganol y dref, a enwir ar ôl y bont dros yr afon honno. Mae'r Afon Clydach Uchaf hefyd yn llifo trwy'r dre cyn ymuno â'r Tawe, ac mae rhan o Gamlas Abertawe (sydd pellach yn segur) i'w ganfod yno. Mae'n gartref i tua 5,000 o drigolion[1], gan ymestyn i mewn i bentrefi cysylltiedig Trebannws, Ynysmeudwy, Alltwen a Rhyd-y-fro.

Pontardawe
Pontardawe -panorama.jpg
Golygfa ar Bontardawe gydag Afon Tawe.
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLogunec'h Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7203°N 3.8534°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000621 Edit this on Wikidata
Cod OSSN721040 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Christina Rees (Llafur).[2][3]

HanesGolygu

Dechreuodd hanes Pontardawe fel croesffordd llwybrau porthmyn, un yn arwain o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Landeilo.[1] Recordiwyd yr enw ar fap am y tro cyntaf ym 1729, fel "Pont-ar-Dawye", yn New and Accurate Map of South Wales Emmanuel Bowen. Erbyn 1796, roedd Camlas Abertawe wedi cysylltu Pontardawe â dociau Abertawe. Galluogodd hygyrchedd y gamlas ddatblygiad diwydiant yn yr ardal, a ddechreuodd â gwaith haearn Ynysderw ym 1835. Gerllaw'r gwaith haearn, daeth tunplat a gwaith dur yn sylfaen i ddatblygiad y dref. Datblygodd William Parsons, diwydiannwr o Gastell-nedd, y diwydiant cynnar, cyn i deulu'r Gilbertsons o 1861 ymlaen ddod yn brif berchnogion y dref. Yn ogystal â gwaith metel, roedd sawl pwll glo yn yr ardal a diwydiant crochenwaith yn Ynysmeudwy.

O 1861 ymlaen, cysylltodd Rheilffordd Abertawe Pontardawe â gweddill y cwm tan ei ddad-gomisiynu yn 1964. Yn 1862, gorffennwyd adeiladu Eglwys Saint Pedr, a ariannwyd gan Mr Parsons.[4] Yn ogystal â'i bensaernïaeth anghyffredin Ffrengig, mae'r Eglwys hyd at heddiw yn un o brif nodweddion y dref.

Ers 1978, cynhaliwyd Gŵyl Pontardawe am benwythnos ym mis Awst bob blwyddyn - gŵyl sy'n fwrlwm o berfformiadau cerddorol, traddodiadol a rhyngwladol.

Yr Iaith GymraegGolygu

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd gan 1,995 o drigolion y dref (neu 40.9% o'i phoblogaeth) y gallu i siarad, darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg.[1] Dyma ganran sydd llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan (23.5%) ac mae'r fwrdeistref yn gyffredinol yn cynnwys 20.3% o siaradwyr Cymraeg. Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn darparu addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dre. Canolfan Gymraeg y dre a’r Cwm yw Ty Gwrhyd. Mae cyrsiau (gan Acadami Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe) a gweithgareddau ar gael i ddysgwyr ac i Gymry Cymraeg. Mae siop Cymraeg ar agor dyddiau Llun, Mercher, Gwener a bore dydd Sadwrn. Mae swyddfeydd Menter Iaith Castell nedd Port Talbot yn y ganolfan.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontardawe (pob oed) (6,832)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontardawe) (2,083)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontardawe) (5661)
  
82.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontardawe) (1,151)
  
39.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cysylltiadau RhyngwladolGolygu

Mae Pontardawe wedi'i gefeillio â:

EnwogionGolygu

  • Gwenallt, llenor a bardd, a annwyd ym Mhontardawe ond symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen a roddodd iddo ei enw barddol Gwenallt.
  • Mari Hopcin, cantores
  • Gareth Edwards (ganwyd 1947), cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol

Dolenni AllanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Neath Port Talbot County Borough Council, Neighbourhood Profile for Pontardawe Ward" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-08-20. Cyrchwyd 2012-05-16.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Plwyf Llangiwg, Church of St Peter, Pontardawe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-01. Cyrchwyd 2012-05-16.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

LlyfryddiaethGolygu

  • The Pontardawe Historians, Around Pontardawe, The Chalford Publishing Company Limited, ISBN 0-7524-0691-4 (1996)