Briwfwyd melys
Cymysgedd o ffrwyth sych, cyrens, rhesins, siwgr, afalau, croen candi, sbeisys, a gwêr neu siwed,[1] ac weithiau gwirodydd megis brandi neu rỳm,[2] yw briwfwyd melys[3] neu friwdda melys.[4] Gellir ei gadw fel cyffaith,[2] a gan amlaf caiff ei bobi mewn crwst fel pei.[1]
Math | cynhwysyn bwyd |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Heddiw fe'i fwyteir yng Ngwledydd Prydain mewn teisenni briwdda adeg y Nadolig. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys cig neu afu wedi malu, a daeth yn boblogaidd i ychwanegu ffrwyth sych a chynhwysion melys eraill. Mae'r cymysgedd modern mewn teisenni briwdda yn cynnwys, gan amlaf, ffrwyth sych, cnau mân ac afalau wedi malu, siwed, sbeisys, a sudd lemwn, finegr neu frandi.[5]
Yr enw Saesneg ar friwfwyd melys yw mincemeat neu sweet mincemeat. Gall mincemeat hefyd gyfeirio at friwgig. Er ei fod yn cynnwys y gair meat, yn anaml iawn mae'r cymysgedd yn cynnwys cig heddiw. Dechreuodd defnyddio gwêr eidion yn lle cig eidion yng nghanol yr 17g, ac erbyn diwedd y 19eg ganrif diflanodd cig o ryseitiau briwfwyd melys yng Ngwledydd Prydain ac yng Ngogledd America.[5] Mae ambell rysáit, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, yn parhau i ddefnyddio cig.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) mincemeat. Oxford Dictionaries. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Mincemeat recipes. BBC. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [mincemeat].
- ↑ manfriw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
- ↑ 5.0 5.1 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 509.
- ↑ (Saesneg) mincemeat. Merriam-Webster. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.