Agor y brif ddewislen
Afalau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Is-deulu: Maloideae
Genws: Malus
Rhywogaeth: M. domestica
Enw deuenwol
Malus domestica
Borkh.

Ffrwyth sydd yn cael ei feithrin led led y byd yn fwy nag un ffrwyth arall yw afal. Heddiw, bwytawn yn bennaf Malus domestica, ond mae'n debyg mai ei hynafiaid gwyllt oedd Malus sieversii, sy'n dal i fod yn goeden wyllt ar fynyddoedd Asia ganol, yn Casachstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, a rhan deheuol ardal Xinjiang yn Tsieina.

Fe wneir y ddiod seidr o afalau.

MathauGolygu

  • Cymru

Mae'r mathau hyn yn tyfu yng Nghymru, yn ôl yr arbenigwr Ian Sturrock: Croen Mochyn, Pig y Golomen, Sant Cecilia, Glyn Dŵr, Pig Aderyn, Trwyn Mochyn, Cox Cymreig, Gwell na Mil ac Afal Nant Gwrtheyrn.[1]

  • Erddig

Dyma rai o enwau'r afalau sydd yn tyfu yng ngerddi Erddig: Costard, Red Falstaff 1983, golden Noble 1820, Genet Moyle 1849, Cox's Orange Pippin 1825, Twenty Ounce 1844, Duchess's favourite 1700's, Cockpit Improved 1831, Reinette Canada, Dutch Codlin 1783, King's Acre Bountiful 1899, Coer De Boeuf 13C, Golden Spire, Winter Gem, Katy 1947, Mank's Codlin Devil 1975, 10 Commandments 1883, Orleans Reinette 1776, White Melrose 1831, Stamford Pippin 1858, Fenovillet rouge 1667, Miller's seedling 1848, Orange pippin, Rosemary russet 1831, Royal jubilee 1888, Court Pendu Plat 1613.[2]

  • Newid y byd

Meddai Twm Elias: “dywediad ge’s i gan gyfaill o’r Almaen, yntau wedi ei weld mewn siop gyfrifiaduron yn Ynysoedd y Philipinau:

"Tri afal a newidiodd y byd: yr un fwytaodd Adda; yr un ddisgynnodd ar ben Newton a’r un cyfrifiadurol ddyfeiswyd gan Steve Jobbs."[2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Y Wawr; Rhif 170, Gwanwyn 2011.
  2. 2.0 2.1 Bwletin Llên Natur, rhifyn 45-46 (tud. 3)
Chwiliwch am afal
yn Wiciadur.