Bron yr Aur

bwthyn rhestredig Gradd II ym Mhennal

Bwthyn sydd wedi ei leoli yn ne Parc Cenedlaethol Eryri tua milltir i'r gogledd-orllewin o dref Machynlleth yw Bron yr Aur. Daeth y bwythyn, sy'n dyddio o'r 18g, yn enwog wedi i aelodau o'r band roc Seisnig Led Zeppelin dreulio amser yno yn ystod y 1970au.

Bron yr Aur
Bron yr Aur
Mathbwthyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
LleoliadPennal Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr149.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.60769°N 3.86928°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH735027 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Ysbrydolodd ymweliad Robert Plant a Jimmy Page â Bron yr Aur sawl cân newydd i Led Zeppelin, gan gynnwys "Over the Hills and Far Away", "The Crunge", "The Rover", "Down by the Seaside", "Poor Tom", "Friends", "That's the Way", "Bron-Yr-Aur", a "Bron-Y-Aur Stomp". Cyfansoddwyd caneuon eraill yn y bwthyn hefyd, na chafodd eu rhyddhau yn swyddogol, gan gynnwys "Another Way To Wales" a "I Wanna Be Her Man".