Ynys yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America yw Long Island. Mae Long Island yn farian terfynol a adawyd gan rewlifoedd yn ystod oesoedd yr iâ. Saif oddi ar arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau. Dyma'r ynys hiraf a'r ynys mwyaf poblog yn y wlad honno. Mae ganddi boblogaeth o 7,804,968 (1 Ionawr 2014). Mae'r mwyafrif yn byw yn y rhan orllewinol, ym mwrdeistrefi Brooklyn a Queens sy'n rhannau o Ddinas Efrog Newydd. Rhennir gweddill yr ynys yn ddwy sir: Nassau County yn yr ardal ganolog, a Suffolk County i'r dwyrain.[1] }}

Long Island
Mathynys, marian Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,804,968 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iUnterschleißheim Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolardal fetropolitan Efrog Newydd Edit this on Wikidata
SirEfrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd3,566 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr122 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaConnecticut Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.805805°N 73.253616°W Edit this on Wikidata
Hyd190 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Yn swyddogol, mae amheuaeth a yw Long Island yn cael ei ystyried yn ynys.[2][3]

Saif culfor Swnt Long Island i'r gogledd, ac i'r de mae Cefnfor yr Iwerydd. Mae Afon y Dwyrain yn gwahanu Long Island oddi wrth ynys Manhattan a thir mawr y Bronx.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jackson, Kenneth T., gol. (1995). The Encyclopedia of New York City (yn Saesneg). New Haven: Yale University Press. ISBN 0300055366.
  2. Burbidge, John (21 Tachwedd 2004). "Long Island at its best; Who's the Longest of Them All?". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2020.
  3. Piniat, Elaine (20 Chwefror 2016). "True or false? Long Island is an island". Newsday (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ionawr 2019. Cyrchwyd 18 Ionawr 2019.