Brouvelieures
Mae Brouvelieures yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae'r gymuned wedi'i leoli ar lan yr afon Mortagne, mae’n 16 km oddi wrth Rambervillers, 22 km o Saint-Dié-des-Vosges a 28 km o Épinal. Y trefi agosaf (llai na 5 km) yw Domfaing, Vervezelle, Bruyères, Champ-le-Duc, Mortagne a Belmont-sur-Buttant.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 421 |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 7.36 km² |
Uwch y môr | 347 metr, 545 metr |
Yn ffinio gyda | Mortagne, Vervezelle, Bruyères, Domfaing, Fremifontaine, Grandvillers, Bois-de-Champ |
Cyfesurynnau | 48.2372°N 6.7322°E |
Cod post | 88600 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Brouvelieures |
O herwydd dewrder ei thrigolion yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn ystod Brwydr Bruyères, dyfarnwyd Croix de Guerre 39-45 i’r gymuned ar 11 Tachwedd, 1948.
Poblogaeth
golyguSafleoedd a Henebion
golygu- Eglwys y Groes Sanctaidd, adeiladwyd rhwng 1786 a 1790. Mae'n gartref i allor uchel wedi'i cherfio allan o dderw yn y 18 ganrif a chofrestrwyd fel heneb o bwys cenedlaethol ym 1965)[1]. Mae hefyd yn cynnwys nifer o baentiadau megis Addoliad y Bugeiliaid o 1628, sydd wedi ei briodoli i Claude Bassot[2], peintiad mawr o'r 17g, sy'n cynrychioli Addoliad y Doethion a phaentiad yn darlunio Crist a oedd yn rodd i’r eglwys gan Napoleon III.
- Croes hen fynwent Brouvelieures, croes haearn o’r 18g yn arddull Louis XV, wedi ei ddynodi’n heneb ers 1937[3]
- Château de la Forge a gwaith metel o'r enw Forge de la Mortagne a adeiladwyd tua 1880.
-
Croes hen fynwent Brouvelieures
-
Cofeb rhyfel
-
Eglwys y Groes Sanctaidd
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Notice no PM88000079, base Palissy, ministère français de la Culture.
- ↑ "Notice no PM88000078, base Palissy, ministère français de la Culture". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-26. Cyrchwyd 2017-09-08.
- ↑ Notice no PA00107097, base Mérimée, ministère français de la Culture