Bruyères
Mae Bruyères yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae Bruyères wedi ei leoli ym masiff Vosges, 27 km o Épinal, 26 km o Saint-Dié-des-Vosges a 23 km o Gérardmer. Mae'r ddinas yn meddiannu llwyfandir sy'n gwasanaethu fel llwybr rhwng cymoedd y Vologne i'r de a'r Mortagne i'r gogledd.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,981 |
Gefeilldref/i | Vielsalm, Honolulu County, Honolulu |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 16.02 km² |
Uwch y môr | 390 metr, 704 metr |
Yn ffinio gyda | Grandvillers, Laval-sur-Vologne, Laveline-devant-Bruyères, Vervezelle, Belmont-sur-Buttant, Brouvelieures, Champ-le-Duc, La Chapelle-devant-Bruyères, Fays |
Cyfesurynnau | 48.2083°N 6.7186°E |
Cod post | 88600 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bruyères |
Poblogaeth
golyguHanes
golyguMae pobl wedi bod yn byw ar safle Bruyères, sef copa bryn yr Avison ers y 4g. Adeiladwyd bryngaer ar y safle tua’r 6g, ond daeth y gymuned gyfredol i fodolaeth fel bwrdeistref i gastell a adeiladwyd yno gan Ddug Lorraine, yn y 10g. Arhosodd yr Ymerawdwr Henry VI yn y castell yn 1196, a bu’r Dug Mathieu II o Lorraine yn ei feddiannu rhwng 1230-40. Dechreuodd y dref fanteisio ar ei bwysigrwydd yng nghanol y 13g pan wnaeth y Dduges Regent Catherine o Limburg ei sefydlu yn dref tonlieu sef tref lle codir treth ar nwyddau a oedd yn cael eu gwerthu ynddo. Daeth yn ddinas pan gyflwynodd Duke Ferry III siarter iddi o dan gyfraith Beaumont, yn ei wneud yn ddinas rydd o ddyletswyddau ffiwdal ac o dan reolaeth ustusiaid a dewiswyd o fysg y trigolion.
Ym 1475 meddiannwyd y ddinas gan Siarl Rhyfygus, Dug Bwrgwyn mewn rhyfel yn erbyn y Dug René II o Lorraine, ond rhyddhawyd Bruyeres ym 1476 diolch i un o'i drigolion cyffredin o’r enw Varin Doron. Roedd Doron wedi sylwi bod Comander y Castell yn mynd i’r offeren yn yr eglwys, gyda’i brif swyddogion, ar yr un adeg pob diwrnod. Roedd yr ymddygiad rheolaidd yn gwneud hi’n hawdd trefnu i ragodi arnynt, a dyna a wnaed.
Ail ryfel byd
golyguYn yr Ail Ryfel Byd, rhyddhawyd Bruyères o feddiant Almaeneg gan filwyr Siapan-Americanaidd a oedd yn aelodau o’r 442 Dîm Combat Rhyfel. Bellach ystyrir bod Brwydr Bruyères ac achub y "Bataliwn Coll Texas" yn un o'r deg brwydr filwrol fwyaf i’w hymladd gan Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau. Wedi’r frwydr daeth Catrawd y 100/442 yr Uned fwyaf addurnedig yn Hanes Byddin yr Unol Daleithiau. Cafodd 800 o filwyr eu lladd neu eu hanafu. Dyfarnwyd Croix de guerre 1939-1945 i’r ddinas.
Safleoedd a Henebion
golygu-
Eglwys l'Assomption-de-Notre-Dame
-
Capel yr ysbyty
-
Yr hen synagog, sydd bellach yn amgueddfa
-
Capel mewn ogof.
-
Ffynnon Neifion.
-
Mynwent: y sgwâr milwrol
-
Le coq de Bruyères.
-
Canol y dref, yr eglwys a mwnt y castell
Cysylltiadau Rhyngwladol
golyguMae Bruyères wedi'i gefeillio â:
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu