Brown
lliw
Lliw yw brown; dyma liw rhisgl coed, lliw gwallt, pridd neu fwd. Mae weithiau'n symbol o dlodi. Lliw cyfansawdd ydyw a gaiff ei wneud drwy uno coch, du a melyn, gan yr argraffydd; gellir defnyddio glas yn lle du.[1][2] Ar sgrin deledu (y model RGB) caiff ei wneud drwy uno coch a gwyrdd.
Enghraifft o'r canlynol | lliw, lliw a enwir gan HTML4 |
---|---|
Math | goleuni |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn sawl ymchwil drwy Ewrop, dyma'r lliw lleiaf poblogaidd.[3]
Hanes
golyguMae'r gair yn fenthyciad o'r iaith Saesneg. Cyn tua 200 mlynedd yn ôl roedd y termau 'cochddu', 'cethin' (brown tywyll), 'gwinau' (browngoch) neu 'lwyd' yn cael eu defnyddio. Gwelir enghreiffitiau o hyn yn enwau'r gwyfynnod: y Brychan cochddu a'r Teigr cochddu ac yn yr hen bennill 'Ceffyl gwinau yn y cae...'