Brwydr Ceri

brwydr rhwng Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a Hubert de Burgh

Ymladdwyd Brwydr Ceri yn 1228 yng nghwmwd Ceri, Powys. Roedd yr ymladd yma rhwng lluoedd Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a Hubert de Burgh, oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr.

Brwydr Ceri
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1228 Edit this on Wikidata
LleoliadCeri Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
RhanbarthPowys Edit this on Wikidata

Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin a byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Lywelyn. Cododd Llywelyn yr arian trwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid Gwilym Brewys, oedd wedi ei gymeryd yn garcharor yn yr ymladd.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am frwydr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.