Brwydr Croesoswallt
Brwydr yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr oedd Brwydr Croesoswallt a ymladdwyd ar 22–23 Mehefin 1644, pan ymosododd y Seneddwyr dan arweiniad Basil Feilding, 2il Iarll Dinbych garsiwn y Brenhinwyr yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig a'i gipio.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | Gorffennaf 1644 ![]() |
Lleoliad | Croesoswallt ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Ar 22 Mehefin cipiodd y Seneddwyr eglwys Sant Oswallt a safai y tu allan i furiau'r dref ac yna dymchwel prif borth y dref ag ergydion o ganon. Ciliodd amddiffynwyr y Brenhinwyr i Gastell Croesoswallt a meddiannwyd y dref gan y Seneddwyr. Ildiodd garsiwn y Brenhinwyr y bore canlynol.