Swydd Amwythig

swydd serimonïol yn Lloegr

Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yw Swydd Amwythig (Saesneg: Shropshire), ar y ffin â Chymru (i'r gorllewin ohoni) a Swydd Gaer i'r gogledd, Swydd Henffordd i'r de a Swydd Stafford i'r de-ddwyrain ohoni. Ei chanolfan weinyddol yw Amwythig. Cafodd ei chreu ar 1 Ebrill 2009. Mae Swydd Telford a Wrekin yn sir ar wahân iddi ers 1998, er eu bont o ran sereminïau'n parhau fel un.

Swydd Amwythig
Mathsiroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Canolbarth Lloegr, Lloegr
PrifddinasAmwythig Edit this on Wikidata
Poblogaeth506,737 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd3,487.5894 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Gaer, Swydd Stafford, Swydd Gaerwrangon, Swydd Henffordd, Powys, Clwyd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6167°N 2.7167°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Swydd Amwythig yn Lloegr

Mae poblogaeth a diwydiant mwya'r sir wedi'u lleoli o fewn 5 tref: yr Amwythig[1], sydd wedi'i leoli yng nghanol y Sir, Telford, Croesoswallt yn y gogledd-orllewin, Bridgnorth i'r de o Telford a Llwydlo yn ne'r Sir.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Ardaloedd awdurdod lleol golygu

Rhennir y sir yn ddau awdurdod unedol:

 
  1. Swydd Amwythig (awdurdod unedol)
  2. Telford a Wrekin

Etholaethau seneddol golygu

Rhennir y sir yn bum etholaeth seneddol yn San Steffan:

Trefi a phentrefi golygu

Ceir dros 400 o bentrefi yn Swydd Amwythig; gweler: Rhestr o bentrefi Swydd Amwythig.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato