Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr
Rhyfel rhwng plaid Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, a phlaid y Senedd a barodd o 1642 tan 1646 oedd Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Roedd yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr, ac felly'n rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas, oedd yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cynghreiriaid Iwerddon (1642–9).
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 1642 |
Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr |
Dechreuwyd | 1642 |
Daeth i ben | 1646 |
Lleoliad | Cymru a Lloegr |
Yn cynnwys | Brwydr Gyntaf Newbury, Ail Frwydr Newbury, Brwydr Lansdowne |
Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd ydoedd, a ddechreuodd pan gododd Siarl I ei faner yn Nottingham ar 22 Awst 1642. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell erbyn diwedd y rhyfel. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffodd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben.