Brwydr Edgehill
Brwydr Edgehill (neu Edge Hill) oedd y frwydr gyntaf yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Ymladdwyd hi ger Edgehill a Kineton yn Swydd Warwick ar 23 Hydref 1642.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 23 Hydref 1642 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Rhan o | Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr |
Lleoliad | Edgehill |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd ydoedd, a ddechreuodd pan gododd Siarl I ei faner yn Nottingham ar 22 Awst 1642. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Y canlyniad oedd buddugoliaeth i'r blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell erbyn diwedd y rhyfel. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffodd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben.