Brwydr Marston Moor
Un o frwydrau pwysicaf Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–1646) oedd Brwydr Marston Moor (2 Gorffennaf 1644), rhwng y Seneddwr Ferdinando Fairfax a'r fyddin Seisnig, gyda'r Cyfamodwyr o'r Alban yn erbyn byddin Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban.[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2 Gorffennaf 1644 ![]() |
Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr ![]() |
Lleoliad | Long Marston ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![]() |
I Ferdinando Fairfax a'r Cyfamodwyr yr aeth y fuddugoliaeth bwysig hon.

Yn ystod haf 1644, roedd y Seneddwyr a'r Cyfamodwyr wedi rhoi Efrog dan warchae, a oedd yn cael ei hamddiffyn gan Marcwis Newcastle. Roedd y Tywysog Rupert wedi casglu byddin gref a fartsiodd drwy Ogledd Orllewin Lloegr ac ar draws bryniau'r Pennines, gan gynyddu mewn nifer wrth fynd. Bwriadent dorri'r gwarchae a rhyddhau'r dref. Pan ddaeth y ddwy fyddin benben a'i gilydd, ymladdwyd brwydr mwyaf y Rhyfel Cartref.
Ar y 1af o Orffennaf, gwnaeth Rupert, symudiad annisgwyl drwy orfodi brwydr, er fod ganddo lawer llai o filwyr yn ei fyddin. Ond yn hytrach nag ymosod ar unwaith, yn y bore bach, daliodd ei afael - a chynyddodd y ddwy ochr o ran nifer. Tir corsiog yw Marston Moor, sy'n agored ac eang, mymryn i'r gorllewin o Efrog. Yn y cyfnos, ymosododd y ddwy ochr ar ei gilydd, ac wedi dwy awr, roedd y pennau-grynion (neu'r Seneddwyr), dan arweiniaeth Oliver Cromwell, yn erlyn y Brenhinwyr hynny a oedd yn dianc o faes y gad, gyda'u cynffonau rhwng eu coesau.
Ar y cyfan, canlyniad y frwydr hon oedd gweld y Brenhinwyr wedi'u clirio o Ogledd Lloegr a golygai fod Brenhinwyr De Lloegr wedi'u gwahanu oddi wrth Brenhinwyr yr Alban.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Llyfr: Civil War: The Wars of the Three Kingdoms 1638–1660, gan Trevor Royle; cyhoeddwyd yn Llundain gan Abacus, 2004, isbn=0-349-11564-8 tud.279