Brwydr Emsdorf
Brwydr a ymladdwyd ar 14 Gorffennaf 1760 yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd oedd Brwydr Emsdorf. Brwydrodd llu o Brydeinwyr ac Hanoferiaid yn erbyn milwyr Almaenig oedd yn nhâl Ffrainc.[1] Emsdorf yn Hessen oedd lleoliad y frwydr.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 14 Gorffennaf 1760 |
Rhan o | y Rhyfel Saith Mlynedd |
Lleoliad | Kirchhain |
Roedd y 15fed Ddragwniaid Ysgeifn, y Fyddin Brydeinig, mor lwyddiannus yn y frwydr, canitawyd iddynt ddangos yr enw "Emsdorf" ar eu penwisg.[2] Ym 1768 cymerwyd yr enw oddi ar eu capiau a'i addurnwyd ar eu gidonau, ac hwn oedd yr anrhydedd brwydr cyntaf ar ffurf enw brwydr neu ymgyrch.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) The Battle of Emsdorf, Seven Years War. Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
- ↑ Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 24.
- ↑ Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 187.