Hessen
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Hessen. Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad. Ei phrifddinas yw Wiesbaden.
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
---|---|
Enwyd ar ôl | Chatti |
Prifddinas | Wiesbaden |
Poblogaeth | 6,420,729 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Boris Rhein |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Emilia-Romagna, Wisconsin |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 21,100 km² |
Uwch y môr | 264 metr |
Yn ffinio gyda | Niedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg, Rheinland-Pfalz, Nordrhein-Westfalen |
Cyfesurynnau | 50.60803°N 9.02847°E |
DE-HE | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Hesse |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Hesse |
Pennaeth y Llywodraeth | Boris Rhein |
Hanes
golyguRoedd presenoldeb Celtaidd cynnar yn yr ardal a elwir heddiw'n Hessen. Mae tystiolaeth o hyn ar ffurf claddiadau o arddull La Tène sy'n dyddio o ganol y 5 CC a ddarganfuwyd yn Glauberg. Anheddwyd y rhanbarth yn ddiweddarach gan lwyth Germanaidd yn Chatti tua'r ganrif 1af CC, ac mae'r enw Hessen yn barhad o enw'r llwyth. Yn y Canol Oesoedd cynnar, roedd gau Ffrancaidd yn cynnwys ardal o amgylch Fritzlar a Kassel ac un Sacsonaidd arall i'r gogledd a adnabuwyd fel Hessengau. Yn ystod y 9g daeth Hessengau Sacsonaidd hefyd o dan reolaeth y Franconiaid, cyn cael ei drosglwyddo i Thüringen yn y 12g.
Enillodd Hessen ei hannibyniaeth yn Rhyfel Olyniaeth Thuringiaid (1247–1264), a daeth yn Landgrafiaeth o fewn Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cododd yn fuan i bwysigrwydd sylfaenol o dan Landgraf Philip y Fawrfrydig, a oedd yn un o'r arweinwyr Almaeneg Protestannaidd. Ar ôl marwolaeth Philip ym 1567, rhannwyd y diriogaeth ymhlith ei bedwar mab o'i briodas gyntaf (roedd Philip yn figamydd) mewn llinellau: Hessen-Kassel, Hessen-Darmstadt, Hessen-Rheinfels a Hessen-Marbwrg. Bu farw'r ddwy linell ganlynol allan yn weddol fuan (1583 ac 1605), Hessen-Kassel a Hessen-Darmstadt oedd y ddwy diriogaeth graidd yn y tiroedd Hessiaidd. Rhannwyd llinellau cyfochrog sawl gwaith dros y canrifoedd, fel ym 1622, pan rannwyd Hessen-Hombwrg i ffwrdd o Hessen-Darmstadt. Mabwysiadodd Hessen-Kassel Galfiniaeth yn yr 16g, tra arhosodd Darmstadt gyda Lutheriaeth ac o ganlyniad, bu gwrthdaro rhwng y ddwy linell, yn arbennig yn yr anghydfod dros Hessen-Marbwrg ac yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, pan ymladdodd Darmstadt ar ochr yr Ymerawdwr, tra ochrodd Hessen-Kassel gyda Sweden a Ffrainc.
Cyflogwyd nifer o hurfilwyr o Hesse gan Brydain yn ystod y Chwyldro Americanaidd, i ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yn America.
Cododd Hessen-Kassel i statws Etholaeth ym 1803, ond ni chafodd hyn unrhyw effaith gan y diddymwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806. Mae'r diriogaeth yn atodiad gan y Deyrnas Westphalia yn 1806, ond hadfer i'r etholwr ym 1813. Er Etholwyr eraill wedi ennill o deitlau eraill, gan ddod yn naill ai brenhinoedd neu Uchel Ddugiaeth, cadw etholwr o Hessen-Kassel yn unig y mae anachronistig urddas. Mae'r enw goroesi yn y tymor Kurhessen, sy'n dynodi ardal o amgylch Kassel. Yn 1866 roedd yn atodiad gan Brwsia, ynghyd â Dinas am ddim o Frankfurt, Hessen-Hombwrg a Dugiaeth o Nassau, a sefydlodd y dalaith Hessen-Nassau.
Codwyd Hessen-Darmstadt i statws Uchel Ddugiaeth ym 1806. Ymladdodd y diriogaeth ar ochr Prwsia yn erbyn Awstria yn Rhyfel 1866, o gadwodd ei annibyniaeth er iddynt gael eu gorchfygu, gan fod rhan fwyaf o'r wlad wedi ei leoli i'r de o Afon Main, a ni feiddiodd Prwsia geisio ehangu y tu hwnt i'r ffin yr afon hon, rhag ofn cythruddo Ffrainc. Ond, cafodd y rhannau o Hessen-Darmstadt i'r gogledd o'r afon (yr ardal o amgylch tref Gießen, a elwir yn aml yn Oberhessen) eu cynnwys yn y Norddeutscher Bund, sef ffederasiwn o wladwriaethau'r Almaen, a sefydlwyd gan Brwsia ym 1867. Ymunodd gweddill y Brif Ddugiaeth ag Ymerodraeth yr Almaen ym 1871. Roedd Darmstadt yn un o ganolfannau'r Jugendstil o gwmpas troad y ganrif.
Hyd 1907, llewod Hessian coch a gwyn yn unig a ddefnyddiodd Hesse ar ei arfbais.
Trawsnewidiwyd Hessen-Darmstadt o frenhiniaeth i weriniaeth yn ystod chwyldro 1918, ac ailenwyd yn swyddogol yn Volksstaat Hessen (Talaith Pobl Hesse). Meddiannwyd rhannau o Hesse-Darmstadt ar lan orllewinol y Rhein (talaith Rheinhessen) gan filwyr Ffrengig hyd 1930, o dan delerau cytundeb heddwch Versailles y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben yn swyddogol ym 1919.
Meddiannwyd yr ardal i'r gorllewin o'r Rhein unwaith eto gan Ffrainc ar ôl yr Ail Ryfel Byd, tra bu gweddill y wlad yn rhan o ardal a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau. Gwahanodd y Ffrancod eu rhan hwy o Hessen oddi wrth weddill y wlad, a'i ymgorffori'n rhan o dalaith newydd Rheinland-Pfalz. Dros yr afon, crëwyd talaith Groß-Hessen o weddill y rhanbarth gan yr Unol Daleithiau, ar 19 Medi 1945, a chynhwyswyd y rhan fwyaf o'r hen dalaith Brwsiaidd Hessen-Nassau. Ar 4 Rhagfyr 1946 ail-enwyd Groß-Hessen yn swyddogol yn Hessen.
Daearyddiaeth
golyguMae Hessen yn ffinio â thaleithiau Nordrhein-Westfalen, Niedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg a Rheinland-Pfalz. Ymysg ei dinasoedd mwyaf mae Frankfurt am Main, Wiesbaden, Darmstadt, Offenbach, Gießen, Wetzlar, Fulda, Kassel a Marburg.
Y prif afonydd yn y gogledd yw Afon Fulda ac Afon Lahn. Mae ganddi dirwedd fryniog; y prif fynyddoedd yw'r Rhön, y Westerwald, y Taunus, y Vogelsberg a'r Spessart.
Trigai'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn rhan ddeheuol y dalaith, rhwng Afon Main ac Afon Rhein (sy'n ffurfio'r ffin i'r de-orllewin). Safai'r mynyddoedd Odenwald rhwng afonydd Main a Rhein.
Dinasoedd a Rhanbarthau
golyguMae 21 rhanbarthau yn Hessen.
|
Dinasoedd heb rhanbarth:
- Darmstadt (DA)
- Frankfurt am Main (F)
- Kassel (KS)
- Offenbach am Main (OF)
- Wiesbaden (WI)
Dolenni allanol
golygu