Y Rhyfel Saith Mlynedd

Yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763) roedd Teyrnas Prydain Fawr, Prwsia a Hanofer ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn Ffrainc, Awstria, Sweden a Sacsoni ar y llall. Am fod y mwyafrif o wledydd mawr Ewrop yn ymrwymedig i'r rhyfel a bod brwydrau ledled Ewrop yn ogystal ac yn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Ganada, Unol Daleithiau America, India a'r Môr Caribî, gellir dweud fod hi wedi bod y wir "rhyfel byd cyntaf". Hwyrach, roedd Sbaen a Portiwgal yn cymryd rhan hefyd ac oedd ymosodiad ar byddyn yr Iseldiroedd yn India, er roedden nhw ei hunain yn amhleidiol.

Y Rhyfel Saith Mlynedd

Un o frwydrau mawr y Rhyfel Saith Mlynedd
(llun gan Alexander Kotzebue, 1848)
Dyddiad 1754 neu 1756 - 1763
Lleoliad Ewrop, Affrica, India, Gogledd America, Pilipinas
Canlyniad Cytundeb Paris
Cytundeb Hubertusburg
Cydryfelwyr
Teyrnas Prwsia
Teyrnas Prydain Fawr a'i Colonies Americanaidd
Etholaeth Brunswick-Lüneburg (Hanover)
Ffederasiwn Iroquois
Teyrnas Portiwgal
Tywysogaeth Brunswick-Wolfenbüttel
Landgraviate Hesse-Kassel
Austria
Teyrnas Ffrainc a'i Gwladfeydd
Baner Rwsia Ymerodraeth Rwsia
Baner Sweden Teyrnas Sweden
Teyrnas Sbaen
Etholaeth Sacsoni
Teyrnas Napoli a Sisili
Teyrnas Sardinia
Arweinwyr
Frederick II
Friedrich Wilhelm von Seydlitz
John Manners
Edward Boscawen
Barwn Clive
James Wolfe
Barwn Amherst
Ferdinand, dug Brunswick
Cownt von Daun
Franz Moritz von Lacy
Charles Alexander of Lorriane
Ernst von Laudon
Louis XV
Louis-Joseph de Montcalm
Baner Rwsia Elisabeth
Baner Rwsia Pyotr Saltykov
Frederick Augustus II

Roedd y rhyfel hwn yn dilyn Rhyfel Olyniaeth Awstria, a adawodd nifer o broblemau heb eu datrys, er bod Ewrop yn newid yn gyflym gyda Ffrainc, Awstria a Rwsia, oedd wedi bod yn elynion ers ganrifoedd, yn cydweithio. Roedd hynny yn fygythiad i Brwsia - a roedd Prydain yn ddechrau poeni am Hanofer. Oblegid hynny, roedd yn naturol fod Prydain a Phrwsia yn cydweithio, hefyd. Achos arall y rhyfel roedd cystadleuaeth rhwng Prydain a Ffrainc ar gyfer gwladfeydd.

Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffrederic Fawr, brenin Prwsia, nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymant mwy na'r eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffrederic yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef.

O ganlyniad i'r cytundebau heddwch a arwyddwyd ar 10 Chwefror, 1763 ym Mharis rhwng Prydain a Portiwgal ar y naill ochr a Ffrainc a Sbaen ar y llall, roedd pethau yn newid yn y gwladfeydd. Cafodd Prydain Fflorida o Sbaen a gorfodwyd i Ffrainc rhoi'r ardal i'r gorllewin i Afon Mississippi i Sbaen. Collodd Ffrainc Ganada, a'r ardaloedd i'r dwyrain i Afon Mississippi a'r ardaloedd o amgylch y Llynnoedd Mawr i Brydain. Fel hynny, doedd dim ond New Orleans, rhan gorllewinol Hispaniola (heddiw Haiti) a rhai ynysoedd eraill yn aros yn ddiriogaethau Ffrengig ar ôl y rhyfel. A chollodd Ffrainc ei thiriogaethau yn India, Senegambia (heddiw: Senegal a Gambia) ac ati i Brydain, hefyd.

Ar 15 Chwefror, 1763 arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng Prwsia a'i elynion oedd yn gwrthdroi y ffiniau i'r hyn yr oeddent o flaen y rhyfel.

O ganlyniad i'r rhyfel hwn daeth Prwsia i fod yn un o'r pum gwlad gryfaf Ewrop. Collodd Ffrainc bron ei holl wladfeydd ac felly daeth yn awyddus iawn i geisio dial ar Brydain. A daeth Prydain i fod y wlad gryfaf yn y byd, yn arbennig ar y môr, a chanddi'r gwladfeydd ehangaf.