Brwydr Falkirk (1298)

Ymladdwyd Brwydr Falkirk (Gaeleg yr Alban: Blàr na h-Eaglaise Brice) ar 22 Gorffennaf 1298, efallai ar Mumrills Brae ger Falkirk yn yr Alban. Brwydr rhwng byddin William Wallace a byddin Seisnig oedd hon; roedd y fuddugoliaeth Seisnig yn gam enfawr yn ymdrech Edward I, brenin Lloegr i ail-sefydlu ei reolaeth yn yr Alban. Roedd dros ddwywaith cymaint o filwyr ym myddin Lloegr, ond lladdwyd 2,000 o'r naill du a'r llall.

Brwydr Falkirk
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Gorffennaf 1298 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfeloedd dros annibyniaeth yr Alban Edit this on Wikidata
LleoliadFalkirk Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Falkirk
Rhan Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf yr Alban
Dyddiad 22 Gorffennaf 1298
Lleoliad Falkirk
Canlyniad Buddugoliaeth i Loegr
Cydryfelwyr
Baner Lloegr Lloegr Baner Yr Alban Yr Alban
Arweinwyr
Baner Lloegr Edward I Baner Yr Alban William Wallace
Nerth
15,000[1] 6,000[2]
Anafusion a cholledion
2,000 wedi marw neu clwyfo[3] 2,000 wedi marw
2,000 o ffoaduriaid[4]

I Edward, roedd hon yn fuddugoliaeth yr oedd wedi breuddwydio amdani ers cryn amser; roedd wedi ei drechu yn Stirling ychydig ynghynt ac roedd cost ariannol ei ymyrraeth filwrol yn Ffrainc yn drwm arno, gan ei osod mewn sefyllfa eitha bregus. Doedd nifer yr Albanwyr a laddwyd neu a glwyfwyd ddim yn fawr, ond roedd yn cynnwys dirprwy Wallace sef Syr John de Graham, Syr John Stewart o Bonkyll a Macduff o Fife.[4]


Cyfeiriadau

golygu
  1. UK. Battlefields, Battle of Falkirk
  2. Barrow, G. W. S. Robert Bruce and the Community of the Realm of Scotland, 1976 a Fisher, Andrew (2002), William Wallace (Ail argraffiad), Caeredin: Birlinn, ISBN 1-84158-593-9
  3. Fisher, Andrew (2002), William Wallace (Ail argraffiad), Edinburgh: Birlinn, ISBN 1-84158-593-9
  4. 4.0 4.1 Prestwich tud.481
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato