Stirling
Dinas yn yr Alban yw Stirling[1] (Gaeleg: Sruighlea;[2] Sgoteg: Stirlin), prifddinas ardal cyngor Stirling. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 41,243; y ddinas leiaf yn yr Alban.
![]() | |
Math |
dinas, large burgh ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
37,610 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Stirling, Stirling, Stirlingshire, Stirling ![]() |
Gwlad |
![]() |
Yn ffinio gyda |
Callander ![]() |
Cyfesurynnau |
56.1166°N 3.9369°W ![]() |
Cod SYG |
S20000472, S19000589 ![]() |
Cod OS |
NS795935 ![]() |
![]() | |
Saif y ddinas o amgylch Castell Stirling, ar fryn sydd wedi bod o bwysigrwydd strategol ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid. Credir mai Stirling oedd caer Iuddeu neu Urbs Giudi, lle gwarchaewyd ar Oswiu, brenin Northumbria gan Penda, brenin Mercia yn 655.
Stirling oedd y man isaf lle gellid croesi Afon Forth, ac mae ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau yma, yn cynnwys buddugoliaeth William Wallace dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling a buddugoliaeth Robert Bruce dros fyddin Edward II, brenin Lloegr ym Mrwydr Bannockburn.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Canolfan Thistles
- Castell Stirling
- Cofadeilad Cunninghame Graham
- Eglwys Gadeiriol Dunblane
- Gorsaf Stirling
- Y Raploch
Castell Stirling o'r de-orllewin
EnwogionGolygu
- Billy Bremner (1942-1997), chwaraewr pêl-droed
- Willie Carson (g. 1942), joci
CyfeiriadauGolygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 6 Hydref 2019