Falkirk
Tref yng nghanolbarth yr Alban yw Falkirk[1] (Gaeleg: An Eaglais Bhreac[2] ("Yr Eglwys Frych"); Sgoteg: Fawkirk). Saif i'r gogledd-orllewin o ddinas Caeredin ac i'r gogledd-ddwyrain o Glasgow. Hi yw canolfan weinyddol awdurdod unedol Falkirk. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 34,071. Mae Caerdydd 504.8 km i ffwrdd o Falkirk ac mae Llundain yn 555 km. Y ddinas agosaf ydy Stirling sy'n 15.8 km i ffwrdd.
![]() Stryd Fawr, Falkirk | |
Math |
tref, large burgh ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
35,850 ![]() |
Gefeilldref/i |
Kemper ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Falkirk, Falkirk, Stirlingshire, Falkirk ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
11 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Stenhousemuir ![]() |
Cyfesurynnau |
56.0006°N 3.7844°W ![]() |
Cod SYG |
S20000468, S19000559 ![]() |
Cod OS |
NS887801 ![]() |
![]() | |
Saif y dref ger cymer Camlas Forth a Clud a'r Union Canal, a thyfodd yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn y 18fed a'r 19g. Yr enw cynharaf a gofnodir arni oedd "Ecclesbrith", Cymbreg neu Hen Gymraeg.
Bu dwy frwydyr yn y cylch: Brwydr Falkirk yn 1298 pan orchfygwyd William Wallace gan fyddin Edward I, brenin Lloegr ac ail Frwydr Falkirk yn 1746, pan gafodd y Jacobitiaid dan Bonnie Prince Charlie fuddigoliaeth dros fyddin y llywodraeth.
Ceir yma dîm pêl-droed adnabyddus, Falkirk F.C.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 6 Hydref 2019