Un o frwydrau pwysicaf Rhyfel Cartref America oedd Brwydr Gettysburg. Ymladdwyd y frwydr rhwng 1 Gorffennaf a 3 Gorffennaf 1863, gerllaw tref Gettysburg, Pennsylvania, rhwng byddin yr Undeb dan George Gordon Meade a byddin y De dan Robert E. Lee. Ystyrir buddugoliaeth y Gogledd yn drobwynt yn hanes y rhyfel.

The battle of Gettysburg, Pa. July 3d. 1863, gan Currier ac Ives

Wedi ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Chancellorsville ym mis Mai 1863, arweiniodd Lee ei fyddin tua'r gogledd, gan obeithio medru gorfodi'r Gogledd i roi'r gorau i'r rhyfel. Dri diwrnod cyn y frwydr, roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln wedi diswyddo'r cadfridog Joseph Hooker, a rhoi arweiniad byddin y Gogledd i Meade.

Dechreuodd yr ymladd ar 1 Gorffennaf, ac wedi ymladd ffyrnig o amgylch tref Gettysburg, gorfodwyd lluoedd y Gogledd i encilio i fryniau ychydig i'r de o'r dref. Ar yr ail ddiwrnod, ymosododd Lee ar adain chwith ac adain dde byddin Meade, ond llwyddodd milwyr yr Undeb i'w gwrthsefyll. Ar y trydydd diwrnod, ymosododd Lee eto. Y digwyddiad pwysicaf oedd ymosodiad gan 12,500 o filwyr y De a adwaenir fel Ymosodiad Pickett, yn erbyn canol byddin yr Undeb. Bu raid i filwyr Pickett encilio gyda cholledion trwm, a'r noson honno. arweiniodd Lee yn fyddin yn ôl tua Virginia.

Ym mrwydr Gettysburg y cafwyd colledion trymaf y Rhyfel Caretref, gyda rhwng 46,000 a 51,000 wedi eu lladd neu eu clwyfo. Ym mis Tachwedd, cysegrwyd mynwent yn Gettysburg i ail-gladdu'r meirwon o'r fwydr, ac ar yr achlysur yma y traddododd Abraham Lincoln Anerchiad Gettysburg.