Brwydr Goose Green
Roedd Brwydr Goose Green (27-8 Mai 1982) yn gam pwysig yn ystod yr ymgyrch Prydeinig i ail-gipio'r Ynysoedd Falklands (Malvinas) yn ystod Rhyfel y Falklands yn 1982. Cafodd ei frwydro rhwng 2 Para a llu Yr Ariannin a seiliwyd yn Goose Green, sef pentref bach yn yr ynysoedd. Ar ôl diwrnod o frwydro caled, roedd 2 Para yn llwyddiannus, er nifer o anafiadau a marwolaethau. Ildiodd yr amddifynnwyr ar 28 Mai. Ystyrir y frwydr fel un o uchafbwyntiau yn hanes y Fyddin Brydeinig ers yr Ail Ryfel Byd; enillodd 2 Para yn erbyn llu llawer mwy gyda dim ond ychydig o gefnogaeth awyr. Porteadwyd y frwydr fel buddugoliaeth bropaganda aruthrol yn y wasg Brydeinig yn ystod y rhyfel, er y ffaith nad oedd cymryd Goose Green yn hanfodol i'r cynllun i ail-gipio'r ynysoedd.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Rhan o | Rhyfel y Falklands |
Dechreuwyd | 28 Mai 1982 |
Daeth i ben | 29 Mai 1982 |
Lleoliad | Goose Green, Darwin |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |