Brwydr Hattin
Ymladdwyd Brwydr Hattin ar 4 Gorffennaf, 1187, ger Tiberias, Galilea (yn Israel heddiw) rhwng byddin Gristnogol Teyrnas Jeriwsalem a'i chyngheiriaid a byddin Islamaidd dan Saladin.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Rhan o | Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1149 a 1189 |
Dechreuwyd | 3 Gorffennaf 1187 |
Daeth i ben | 4 Gorffennaf 1187 |
Lleoliad | Horns of Hattin |
Gwladwriaeth | Teyrnas Jeriwsalem |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enillodd Saladin fuddugoliaeth ysgubol, gan ladd llawer o'r Cristionogion, a chymeryd y rhan fwyaf o'r gweddill yn garcharorion. Ymysg y carcharorion roedd Guy o Lusignan, brenin Jeriwsalem.
Yn dilyn y frwydr, cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem oddi ar y Cristnogion ar 2 Hydref, 1187. Ymatebodd y gorllewin Cristnogol i'r digwyddiadau hyn trwy baratoi Y Drydedd Groesgad.