Brwydr Mynydd Baddon

Ymladdwyd Brwydr Mynydd Baddon (Lladin: Bellum (in monte) Badonis) rywbryd tua diwedd y 5g neu ddechrau'r 6g, rhwng y Brythoniaid a'r Eingl-Sacsoniaid. Ychydig o fanylion sydd ar gael, ac ni wyddir union leoliad y frwydr; mae'n bosibl mai yng Nghaerfaddon, yn Lloegr heddiw. Ymddengys i fuddugoliaeth y Brythoniaid atal unrhyw symudiad pellach gan yr Eingl-Sacsoniaid am genhedlaeth. Un o gyfres o fuddugoliaethau Arthur oedd Baddon, yn ôl Nennius.[1]

Brwydr Mynydd Baddon
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolanheddiad Anglo-Sacsonaidd Edit this on Wikidata
LleoliadPrydain Fawr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.38°N 2.36°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnodc. 500 Edit this on Wikidata

Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn y De Excidio Britanniae ("Ynghylch Dinistr Prydain") gan y mynach Gildas. Cyfeiria at Frwydr Mynydd Baddon, ond nid yw’n crybwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud fod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er fod y gwreiddiol Lladin yn anodd yn y frawddeg yma (quique quadragesimus quartus (ut novi) orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est). Byddai hyn yn awgrymu dyddiad tua 500 neu ychydig yn gynharach.

Awgryma rhai ysgolheigion, o astudiaeth o'r brif lawysgrif o'r De Excidio Britanniae, "British Library, Cotton Vitellius A.vi", fod Gildas mewn gwirionedd yn priodoli'r fuddugoliaeth i Ambrosius Aurelianus (Emrys Wledig).[2]

Darluniad o Frwydr Mynydd Baddon allan o Hanes Cymru Owen gan O. M. Edwards

Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ac sy'n dyddio i tua dechrau'r 9g, ceir rhestr o frwydrau Arthur. Brwydr Mynydd Baddon yw'r olaf o'r rhain a'i fuddugoliaeth fwyaf.

Yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 516, dywedir fod Arthur a'i wŷr wedi ymladd am dridydd gydag Arthur yn dwyn Croes Crist (ar ei darian efallai) ac wedi ennill buddugoliaeth ysgubol:

Bellum Badonis in quo Arthur portuait crucem Domini nostri Iesu Christi tribus diebus et tribus noctibus in humeros suos et Brittones uictores fuerunt.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hanes Cymru gan John Davies, Llyfrau Penguin; tudalen 58.
  2. Thomas Green (2008) Concepts of Arthur tt. 31-21
  3. Dyfynnir yn The Arthur of the Welsh (Caerdydd, 1991), tud. 26.