Brwydr Stow-on-the-Wold
Digwyddodd Brwydr Stow-on-the-Wold yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr ger tref Stow-on-the-Wold, Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, ar 21 Mawrth 1646.[1] Roedd Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, yn ei chael yn fwy fwy anodd i gadw'r byddinoedd gyda'i gilydd fel yr oedd yn gorfod aros am gymorth o Iwerddon, yr Alban, a Ffrainc. Gwnaeth Syr Jacob Astley gasglu gweddillion y byddinoedd yn y Gorllewin at ei gilydd. a dechreuodd gasglu'r byddinoedd garsiynau a oedd yn bodoli o hyd yn y gorllewin. Erbyn hyn, roedd ysbryd y milwyr yn isel, ond roedd gallu Astley fel milwr profiadol, llwyddodd i ddod â byddin o 3,000 at ei gilydd.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 21 Mawrth 1646 |
Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr |
Lleoliad | Stow-on-the-Wold |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Frwydr
golyguRoedd Astley yn ceisio cyrraedd Rhydychen gyda'i fyddin pan glywodd Senedd Lloegr amdano. O ganlyniad, roedd brwydr ar hyd afon Avon wrth i Astley geisio efadu'r byddin arall. Yn y diwedd, nid oedd dim byd arall y gallai Astley wneud ond stopio i ymladd y byddin Roundhead a arweiniwyd gan y Cyrnol Thomas Morgan a Syr William Brereton. Dewisodd Astley fryn i'r gogledd-ddwyrain yn Stow-on-the-Wold, sydd bellach ar bwys yr A424.
Llyfryddiaeth
golygu- Max Hastings, The Oxford Book of Military Anecdotes (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1986)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Willis-Bund, John William (1905). The Civil War In Worcestershire, 1642-1646: And the Scotch Invasion Of 1651 (yn Saesneg). Birmingham: The Midland Educational Company. tt. 175–176.